Cost y Diwrnod Ysgol

Part of 4. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 14 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 3:47, 14 Mawrth 2023

Diolch, Weinidog. Fel rydych chi wedi amlinellu, yn amlwg, mae yna nifer o bethau wedi helpu teuluoedd. Gwnaethoch chi sôn am leihau'r pryder, ond mae'r pryder hefyd yn parhau, oherwydd y gwir amdani ydy bod nifer o deuluoedd yn dal i gael trafferth fforddio'r hanfodion i ddysgwyr sydd ynghlwm â chost y diwrnod ysgol. Mi wnaethoch chi gyfeirio at wisg ysgol, ond er eich bod chi wedi newid y canllawiau ar y mater, mae nifer o ysgolion yn parhau i fynnu logo ar wisg ysgol a phethau megis blaser—pethau sydd yn ychwanegu'n sylweddol at gost gwisg ysgol. A gyda chostau hefyd yn cynyddu, rydyn ni yn gwybod gan deuluoedd bod y grant sydd ar gael ddim yn ddigonol, a hwythau gyda chymaint o gostau ychwanegol.

Mater arall, wrth gwrs, ydy cost tripiau ysgol neu'r pethau ychwanegol sydd yn cyfoethogi profiadau dysgwyr. Yn aml, mae hyn yn amrywio'n fawr o ysgol i ysgol, yn dibynnu os ydy rhieni yn gallu codi arian ac ati, gan olygu bod nifer o'n dysgwyr mwyaf bregus ni'n colli allan, efallai, ar brofiadau megis mynd ar drip i'r theatr ac ati os nad ydy'r ysgol yn gallu fforddio talu ar eu rhan. Felly, gaf i ofyn, felly, beth yn fwy mae'r Llywodraeth yn bwriadu gwneud i sicrhau nad oes unrhyw ddysgwr yn colli allan ar ddiwrnod o addysg neu weithgareddau sy'n cyfoethogi eu haddysg oherwydd sefyllfa economaidd eu haelwyd?