Part of 4. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 14 Mawrth 2023.
Mae gen i'r fantais drosti o allu gweld wynebau ei chyd-Aelodau wrth iddi ddod â'r pethau hyn i'r Siambr, ac mae'n bictiwr, oherwydd maen nhw'n teimlo mor chwithig â phob un ohonom ni. Rydyn ni i gyd yn cymryd rhan yn y Siambr hon wrth sicrhau bod gennym gwricwlwm—[Torri ar draws.] Rydyn ni i gyd yn cymryd rhan yn y Siambr hon wrth sicrhau bod gennym gwricwlwm sy'n diwallu anghenion ein pobl ifanc mewn byd cymhleth a newidiol. Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr eu bod yn iach ac yn ddiogel, ac nad ydyn nhw'n destun camwybodaeth, nac yn destun propaganda a gwrthwynebiad ideolegol. Dyna sydd wedi ysgogi'r rhan fwyaf o'r bobl yn y Siambr hon wrth gefnogi'r cwricwlwm a'r cod, ac roedd adeg pan yr oedd hi ymhlith y bobl hynny.