Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain

Part of 4. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 14 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of James Evans James Evans Conservative 3:55, 14 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, rydw i wedi dweud yn y Siambr hon droeon fy mod i eisiau gweld ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd sbon ledled Cymru, ac yn arbennig, hoffwn i eu gweld ym Mrycheiniog a Maesyfed. Hoffwn i wybod pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar yr argyfwng costau byw a'r cynnydd yng nghost popeth sy'n gysylltiedig ag adeiladu'r ysgolion hyn, a pha effaith mae hynny'n mynd i'w chael ar gyflawni bod â mwy o siaradwyr Cymraeg ledled Cymru, yn enwedig mewn cymunedau gwledig fel fy un i ym Mrycheiniog a Maesyfed.