Part of 4. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 14 Mawrth 2023.
Dros gyfnod 10 mlynedd y rhaglen cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg ledled Cymru, bydd, yn fras, 50 o ysgolion newydd, naill ai drwy adeiladu ysgolion newydd neu gynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion presennol, yn rhannol trwy gymryd yr ysgolion hynny ar hyd y continwwm Cymraeg. Ac felly, nid yw'r cynllun yn llwyr ddibynnol ar adeiladu ysgolion newydd yn ffisegol mewn gwirionedd; mae'n gymysgedd o'r ddau, ac mae hynny'n wir ym Mrycheiniog a Maesyfed fel y mae ym Mhowys yn gyffredinol ac ar draws Cymru, ac mae hynny'n bwysig iawn. Rydyn ni wedi bod eisiau gweithio gydag awdurdodau i ddylunio cynlluniau sy'n adlewyrchu eu hanghenion orau, ond mae'n rhaglen 10 mlynedd, ac felly, rydyn ni'n cynnwys y goblygiadau hynny o ran cost, ond rydyn ni'n hyderus fod modd cyflawni'r cynlluniau hynny.