Cydnabod Eileen a Trefor Beasley

Part of 4. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 14 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:26, 14 Mawrth 2023

Diolch i Adam Price am y pwyntiau pwysig hynny. Rwy'n llwyr gydnabod, wrth gwrs, cyfraniad pwysig iawn ymgyrchwyr fel Eileen a Trefor Beasley yn hanes yr iaith, ac mae eu safiadau nhw wedi bod yn bwysig iawn yn yr hanes honno. Dwi'n deall, wrth gwrs, fod galwadau, yn cynnwys heddiw, i droi'r eiddo yn ganolfan ddiwylliannol o ryw fath. Mae'n werth hefyd ystyried opsiynau posib eraill ar gyfer yr eiddo er mwyn coffau cyfraniad y ddau. Os oes diddordeb yn y gymuned leol i ddatblygu'r eiddo, yna byddwn i'n awyddus iddyn nhw gysylltu â'm swyddogion i weld beth sydd yn bosib. Byddai'r cynllun hwn hefyd efallai'n gallu ffitio yn addas i waith 'Y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg', felly byddwn i'n argymell iddyn nhw gysylltu.