Cymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol

Part of 4. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 14 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:11, 14 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch i Russell George am y cwestiwn yna. Mae'n gwestiwn pwysig ac mae e—. Mae'n fater adeiladol i'w godi, felly diolch yn fawr iddo am hynny. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ac rydym yn parhau i gyhoeddi canllawiau sy'n ymdrin â rhai o'r agweddau y mae ef wedi'u codi yn ei gwestiwn, ond byddaf yn siarad â swyddogion er mwyn sicrhau ein bod yn deall bod yr holl waith trawsffiniol sydd angen digwydd yn cael ei gyflawni. Mae'n gwneud pwynt pwysig ynglŷn â lle mae asesiad yn dechrau, os mynnwch, mewn un awdurdodaeth, ond yna mae'n cael ei drosglwyddo i'n un ni yma. Felly, fe wnaf ysgrifennu ato eto ynghylch y trafodaethau diweddaraf ar y gweithgarwch ymgysylltu trawsffiniol.