Cymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol

4. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 14 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth anghenion dysgu ychwanegol yn sir Drefaldwyn? OQ59246

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:10, 14 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Drwy weithredu'r diwygiadau ADY yn barhaus, bydd plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn sir Drefaldwyn yn cael rhywun yn gwrando arnyn nhw ac yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw yn eu haddysg.

Photo of Russell George Russell George Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Gweinidog, ac, wrth gwrs, clywais eich ateb i Laura Anne Jones ar hyn yn gynharach hefyd. Drwy waith achos, un mater rwy'n ymdrin ag ef yw'r ffaith yr ymddengys bod rhai plant ag anghenion dysgu ychwanegol posibl pan fyddan nhw'n adleoli o Loegr i Gymru, ac mae rhai anawsterau o ran oedi asesiadau, sydd, wrth gwrs, yn ofynnol er mwyn iddyn nhw gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt ar gyfer eu haddysg. Yn amlwg, mae hynny'n niweidiol i'r plentyn pan fydd hynny'n digwydd. Felly, a gaf i ofyn beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu a chefnogi awdurdodau lleol i sicrhau cyfnod pontio didrafferth ar gyfer asesiad ADY i sicrhau bod plentyn yn cael cymorth ADY mewn modd amserol, ond hefyd bod cydraddoldeb cyllid hefyd? Felly, y broblem benodol sydd gennyf yw pryder ynghylch pan fydd asesiad efallai yn dechrau yn Lloegr, a bod plentyn wedyn yn symud i Gymru yng nghanol y broses honno, er mwyn sicrhau bod cefnogaeth i awdurdodau lleol yn y broses honno.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:11, 14 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch i Russell George am y cwestiwn yna. Mae'n gwestiwn pwysig ac mae e—. Mae'n fater adeiladol i'w godi, felly diolch yn fawr iddo am hynny. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ac rydym yn parhau i gyhoeddi canllawiau sy'n ymdrin â rhai o'r agweddau y mae ef wedi'u codi yn ei gwestiwn, ond byddaf yn siarad â swyddogion er mwyn sicrhau ein bod yn deall bod yr holl waith trawsffiniol sydd angen digwydd yn cael ei gyflawni. Mae'n gwneud pwynt pwysig ynglŷn â lle mae asesiad yn dechrau, os mynnwch, mewn un awdurdodaeth, ond yna mae'n cael ei drosglwyddo i'n un ni yma. Felly, fe wnaf ysgrifennu ato eto ynghylch y trafodaethau diweddaraf ar y gweithgarwch ymgysylltu trawsffiniol.