Part of 4. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 14 Mawrth 2023.
Rwy'n gwybod am beth rydych yn ei ofyn ac rwy'n disgrifio sefyllfa amgen i chi lle gofynnir i Lywodraeth Geidwadol ymdrin â'r cwestiynau hyn ac mae'n methu. [Torri ar draws.] Yng Nghymru, rydym yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol, ac rwy'n gwrthod y disgrifiad y mae'n ei roi o hynny. Mae'n bartneriaeth barchus; mae'n bartneriaeth dryloyw. Ceir problemau anodd i weithio drwyddyn nhw, a dim ond drwy drafod y gellir gweithio drwyddyn nhw yn llwyddiannus. Ni ellir eu datrys drwy wrthod ymgysylltu ac, yn wir, gan gyflwyno deddfwriaeth sy'n tanseilio hawliau democrataidd pobl i streicio. Os caiff gyfle i gyfleu ei angerdd amlwg dros bartneriaeth gymdeithasol i'w gydweithwyr yn San Steffan, byddwn yn ei annog yn gryf i wneud hynny.