Part of 4. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 14 Mawrth 2023.
Dwi'n gwerthfawrogi yr ymateb, Gweinidog. Dŷn ni wedi, ers tro, sôn amboutu continwwm addysg Gymraeg yn yr ysgol, ond becso ydw i amboutu trosglwyddiad rhwng addysg yn yr ysgol ac wedyn y cyfnod ar ôl 16 yn y coleg addysg bellach, prifysgolion ac ati. Rôn i'n croesawu eich datganiad rai blynyddoedd yn ôl i gynnig rôl ychwanegol i'r coleg Cymraeg, i sicrhau mwy o fuddsoddiadau, os ydych chi'n licio, mewn addysg ôl-16. Ond beth yw eich cynlluniau chi i sicrhau bod yna continuity i'w gael, o'r ysgol ac wedyn ar ôl 16? Achos mae addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ar ôl 16 yn hanfodol bwysig os ydym ni am gyrraedd targed o filiwn o siaradwyr.