Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 14 Mawrth 2023.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae arnaf i ofn nad ydy cynnwys eich datganiad chi yn cyd-fynd yn y mymryn lleiaf efo’r hyn dwi yn ei glywed gan gleifion a deintyddion yn etholaeth Arfon. Yn ôl arolwg o ddeintyddion ar draws y gogledd, mae 88 y cant yn credu nad oes ganddyn nhw’r capasiti i weld y cleifion newydd sy'n ddisgwyliedig o dan y cytundeb newydd. Mae 96 y cant yn dweud bod y cleifion sydd efo nhw'n barod yn rhoi adborth negyddol ac yn cwyno am fethu â chael mynediad at ofal deintyddol. Mae’n ymddangos i mi fod deintyddion yn boddi o dan y llwyth gwaith newydd, a hynny yn sgil targedau nad oes modd eu cyflawni. Gaf fi ofyn ichi felly ydy'r cytundebau newydd yma yn gosod disgwyliadau llawer rhy uchel ar ddeintyddion? Ac rydych wedi dweud y byddwch chi yn cael trafodaethau ar gytundebau ar gyfer 2024-25 ac ymlaen o hynny, ond, yn sgil yr holl bryderon yr ydym ni yn eu clywed, wnewch chi roi ymrwymiad y prynhawn yma i adolygu'r cytundebau yn ddi-oed, os gwelwch yn dda?