– Senedd Cymru am 4:36 pm ar 14 Mawrth 2023.
Symudwn ymlaen at eitem 6, datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ddiwygio deintyddiaeth. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Roedd yr ymateb iechyd y geg i 'Cymru Iachach' yn nodi sut y byddai gwasanaethau iechyd y geg a deintyddol yng Nghymru yn parhau i ddatblygu yn unol ag anghenion newidiol y boblogaeth. Mae ein gweledigaeth ar gyfer deintyddiaeth yn adeiladu ar athroniaeth gofal iechyd darbodus ac yn cydnabod yn llawn bod angen newid y system. Mae deintyddiaeth wedi bod yn un o'r gwasanaethau anoddach i'w adfer yn dilyn pandemig COVID-19 ac mae hyn yn esbonio, yn rhannol, pam mae pobl yn cael trafferth cael mynediad at ofal deintyddol y GIG. Ond, mae diwygio deintyddol yn mynd yn ei flaen yn gyflym, a hoffwn achub ar y cyfle heddiw i nodi sut mae'r Llywodraeth hon yn gwella mynediad at ofal deintyddol y GIG i'r rhai sydd ei angen fwyaf.
Yn gyntaf, rwy'n troi at fynediad i bobl nad ydynt wedi gallu cael lle mewn practis deintyddol y GIG. Rwyf wedi clywed datganiadau yn ddiweddar yn dweud bod deintyddiaeth y GIG yn system ddwy neu dair haen erbyn hyn. Y ffaith yw bod system ddeintyddol breifat wedi bod erioed, sydd ar gael i'r rhai sy'n dewis ei defnyddio ac sy'n gallu ei fforddio. Mae gofal iechyd preifat yn ddewis arall sefydledig, ac er y gallem anelu at ddarparu gofal deintyddol y GIG i bawb, mewn gwirionedd bydd yn well gan rai fynd yn breifat, gan greu marchnad ranedig.
Mae mynediad i bobl nad ydynt wedi bod at y deintydd yn rheolaidd wastad wedi bod yn broblem ers i gontract yr Unedau o Weithgaredd Deintyddol ddisodli’r broses gofrestru yn 2006. Rydym wedi cydnabod bod hyn yn broblem, ac wedi gweithredu amrywiad contract ar gyfer eleni, sydd wedi'i fabwysiadu gan 80 y cant o ddeintyddfeydd Cymru, gyda'r gofyniad i roi mynediad i gleifion newydd. Mae tua 140,000 o gleifion newydd bellach wedi cael eu gweld ers Ebrill 2022, a hynny'n sylweddol fwy nag yr oeddem wedi'i ragweld. Felly, nid ydym yn llywyddu dros greu system haenog. Yn hytrach, rydym yn mynd ati i gynyddu mynediad i'r bobl a gafodd eu heithrio o dan fodel contract blaenorol yr Unedau o Weithgaredd Deintyddol. Rydym yn cydnabod bod angen gwneud mwy o waith, a byddwn yn parhau gyda'r dull hwn yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae honiadau bod y newid hwn wedi golygu bod pobl sydd wedi mynd at y deintydd yn rheolaidd dan anfantais, gan nad ydyn nhw'n gallu cael eu harchwiliadau ddwywaith y flwyddyn erbyn hyn. Bydd gan aelodau ddiddordeb gwybod bod canllawiau NICE a gyhoeddwyd yn 2004—18 mlynedd yn ôl—wedi argymell y gallai pobl â chegau iach fynd yn ddiogel cyhyd â 24 mis rhwng archwiliadau. Nid yw'r contract unedau o weithgaredd deintyddol yn gwneud dim i orfodi'r canllawiau hyn, ac yn gwobrwyo deintyddfeydd yn effeithiol am weld cleifion yn amlach nag sydd ei angen arnynt. Unwaith eto, mae hyn yn cael sylw drwy'r cynnig amrywiadau, lle mae practisau bellach yn cael eu talu am weld cleifion yn seiliedig ar sail risg ac anghenion unigol claf.
Yn y bôn, mae angen i ni ail-ddychmygu gwasanaethau deintyddol y GIG ar sail y dull risg ac anghenion hwnnw, gan ddefnyddio ein hadnodd ariannol sydd dan straen mawr i ddarparu gofal a thriniaeth i'r rhai sydd ei angen fwyaf. A dyna pam rydyn ni'n diwygio'r contract deintyddol. Mae'n newid sylfaenol i'r cleifion a'r proffesiwn deintyddol, lle gallwn ni, ac y byddwn ni, yn gwneud mwy i sicrhau bod y newid yn dderbyniol a bod pawb yn ei ddeall.
Naratif arall sy'n cylchredeg yw bod llawer iawn o ddeintyddion yn trosglwyddo eu contractau yn ôl ac yn troi at ddeintyddiaeth breifat yn unig. Mae rhai enghreifftiau o hyn, ond y gwir amdani yw bod 413 o gontractau yn weithredol ar 1 Ebrill 2022, ac yn ystod y flwyddyn hon mae llai nag 20 wedi'u trosglwyddo'n ôl, am resymau fel ymddeol, gwerthu practis neu fynd yn breifat. Mewn termau ariannol, mae hyn yn cyfateb i tua 3 y cant o wariant blynyddol ar Wasanaethau Deintyddol Cyffredinol. Mae'n bwysig cofio nad yw'r arian hwn cael ei golli ond mae'n aros gyda'r bwrdd iechyd er mwyn iddo ystyried y ffordd orau o gymryd lle'r gwasanaethau a gollwyd. Rwy'n sylweddoli y gall fod yn anesmwyth i gleifion pan fydd practis yn cau neu'n troi at fod yn breifat yn unig, ond gallaf eu sicrhau y bydd y gwasanaethau hynny'n cael eu disodli. Ond mae'n anochel y bydd bwlch yn y ddarpariaeth yn ystod y broses ail-gaffael. Mae'n galonogol bod y mwyafrif helaeth o anfanteision contract, yn enwedig y rhai mwy, yn cael eu hail-gomisiynu'n llwyddiannus, felly mae hyn yn dangos bod awydd i ddeintyddion ymgymryd â chontractau deintyddol newydd y GIG.
Dwi hefyd eisiau diweddaru Aelodau am ein gwaith ar her unigryw, sef i ddarparu gwasanaethau deintyddol mewn ardaloedd gwledig. Un problem yw'r gweithlu. Weithiau, mae'n anodd recriwtio pobl i ardaloedd gwledig. Rŷn ni'n gwybod bod pobl yn fwy tebygol o setlo i fyw lle maen nhw wedi gwneud eu hyfforddiant. Drwy'r ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi rhoi cynnig gwell at ei gilydd. Nod y cynnig yw annog deintyddion dan hyfforddiant i wneud eu blwyddyn sylfaen mewn practisau deintyddol yng nghefn gwlad Cymru yn lle trefi a dinasoedd. Bydd deintyddion sy'n derbyn y cynnig yn cael £5,000 ychwanegol ar ben eu cyflog arferol. Byddan nhw hefyd yn cael mwy o gymorth academaidd a lles drwy gydol y rhaglen, a thrwy hyn, bydd yn haws i bobl sy'n byw yng nghefn gwlad Cymru fanteisio ar ofal y gwasanaeth iechyd.
Yn olaf, o ran plant, dwi wedi ymrwymo i wneud yn siŵr eu bod yn gallu cael gwasanaethau deintyddol yn haws, yn arbennig mewn ardaloedd lle mae'n fwy anodd cael apwyntiad gyda deintydd NHS. Mae gyda ni y Cynllun Gwen ar gyfer plant hyd at saith oed, ac rŷn ni'n gwybod ei fod wedi cael effaith bositif iawn ers iddo ddechrau 13 mlynedd yn ôl. Mae'r rhaglen hon yn normaleiddio'r arfer o frwsio dannedd. Mae hefyd yn rhoi cyfle i blant gael farnais fflworid ar eu dannedd.
Dwi am ganolbwyntio ar blant oedran ysgol uwchradd nesaf. Dyma'r oedran ffurfiannol pan fydd plant yn dechrau dewis eu hunain beth maen nhw'n bwyta ac yfed. Yn ystod y gwanwyn, byddwn ni'n treialu uned ddeintyddol symudol yn Ysgol y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog. Dros nifer o wythnosau, bydd pob plentyn yn yr ysgol yn cael cyfle i weld deintydd a chael unrhyw driniaeth sydd ei hangen i ofalu am eu hiechyd ceg. Dwi'n meddwl bod hwn yn gyffrous iawn. Os bydd hwn yn llwyddiannus, gall e fod yn ffordd gosteffeithiol o roi gofal deintyddol mewn ysgolion yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Bydd e hefyd yn lleihau'r galw ar y gwasanaethau deintyddol cyffredinol a chymunedol. Ond, yn bwysicach, byddai'n darparu gofal a thriniaeth mawr eu hangen heb effeithio ar waith ysgol y plant a heb orfodi eu rhieni i gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith.
I gloi, ac i roi sicrwydd i Aelodau bod deintyddiaeth yn flaenoriaeth i ni, dwi eisiau datblygu gwasanaeth deintyddol yr NHS sy'n deg i ddeintyddion ac sy'n addas ar gyfer anghenion y boblogaeth, un sy'n seiliedig ar egwyddorion atal, ac yn rhoi cyfle i bawb gymryd diddordeb mewn eu hiechyd ceg ei hun. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw. Yn eithaf cynnar yn eich datganiad, Gweinidog, gwnaethoch chi sôn am y ffaith eich bod wedi clywed rhai pobl yn dweud bod system ddwy neu dair haen erbyn hyn. Wel, rydw i'n un o'r bobl hynny sydd wedi gwneud y sylw hwnnw, ac rydyn ni wedi gwneud y sylw hwnnw yn ein hadroddiad gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Meddwl ydw i a ydych chi wedi camddeall o bosibl, neu beth sydd y tu ôl i'r datganiad hwnnw. Ac rydych chi hefyd yn dweud, mewn gwirionedd, y bydd yn well gan rai pobl fynd yn breifat, gan greu rhaniad marchnad. Byddwn i'n awgrymu—a hoffwn gadarnhau a ydych chi'n meddwl bod hyn yn deg—nad yw'n gymaint bod yn well gan bobl fynd yn breifat, ond bod yn rhaid i bobl fynd yn breifat, gan nad oes dewis arall ganddynt oherwydd na allant gael mynediad at ddeintydd GIG.
Felly, efallai dim ond i gael eich asesiad o hynny, ond efallai i esbonio'r system tair haen o fy safbwynt i. Gall rhai pobl gael mynediad at ddeintydd y GIG; bydd rhai pobl yn mynd yn breifat, ond bydd rhai pobl sydd methu fforddio deintydd GIG ac ni allant gael gafael ar ddeintydd y GIG chwaith. Felly, mae potensial ar gyfer system tair haen. Felly, hoffwn ofyn: ydych chi'n cydnabod yr hyn a olygir gan botensial ar gyfer system tair haen?
Rwy'n credu, heddiw, os nad ydych chi'n ateb fy nghwestiynau i gyd, atebwch hwn: o safbwynt claf, pryd gawn ni sefyllfa lle bydd pob person yng Nghymru, pob preswylydd yng Nghymru, yn gallu cael mynediad at ddeintydd y GIG heb orfod cymryd tair awr i wneud y daith gyfan? Oherwydd dyna oedd y sefyllfa a oedd gennym ni unwaith; pan ges i fy ethol am y tro cyntaf, dyna oedd y sefyllfa. Ond pryd gawn ni'r sefyllfa honno? Rhowch ddyddiad i ni pryd y bydd hynny'n cael ei gyflawni, fel y gallaf ateb etholwyr sy'n codi'r materion hyn gyda mi.
Nawr, mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain wedi rhybuddio y gallai'r union gysyniad o ddeintyddiaeth y GIG ddod i ben, ac mae wedi rhybuddio bod deintyddion wedi nodi eu bod ar fin trosglwyddo cytundebau'r GIG yn ôl oherwydd straen a phryderon am ôl-ofal cleifion. Nid fi sy'n dweud hynny—ond Cymdeithas Ddeintyddol Prydain. A dywedon nhw yn eu—. Ysgrifennodd cadeirydd Cymdeithas Ddeintyddol Prydain ataf yn fuan cyn i'r datganiad gael ei drefnu'n wreiddiol, ac roedd yr hyn a ddywedodd, a dweud y gwir, wedi fy nychryn. Yr hyn a ddywedodd bryd hynny oedd, neu'r hyn a ddywedon nhw, oedd bod y negeseuon wedi cael eu claddu'n ddwfn pryd bynnag y rhoddir atebion y Llywodraeth i gwestiynau yn nadleuon Cyfarfod Llawn y Senedd, a bod tôn atebion y Llywodraeth wedi bod yn tyfu'n oerach o lawer tuag at ddeintyddion dros y flwyddyn ddiwethaf. Felly, rwy'n credu mai fy nghwestiwn i yw: pam ydych chi'n meddwl, Gweinidog, eich bod wedi dieithrio grŵp rhanddeiliaid a chynrychiolydd allweddol fel hyn? Mae'n siŵr eich bod chi'n anghytuno â'r hyn maen nhw'n ei ddweud—efallai y gallwch chi ddweud hynny wrthym—ond dywedwch wrthyf pam eich bod yn meddwl y bu'r fath raniad gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain. Byddai'n ddiddorol cael gwybod sawl gwaith ydych chi wedi cwrdd â Chymdeithas Ddeintyddol Prydain ers i chi ddechrau yn y swydd? A, sut ydych chi'n ymateb i'w honiadau, a ategir gan dystiolaeth hefyd—tystiolaeth rydw i hefyd wedi clywed fy hun—bod y diwygiadau yn gwneud deintyddiaeth y GIG yn risg ariannol i weithwyr proffesiynol?
Nawr, wrth gwrs, mae'n gwbl ddealladwy o fy safbwynt i, Gweinidog, eich bod chi am gyfeirio polisi tuag at ehangu mynediad i gleifion—dyna beth rydyn ni i gyd ei eisiau; rwy'n cytuno â hynny, wrth gwrs. Ac, wedi'r cyfan, rydyn ni mewn sefyllfa yng Nghymru lle mae gennym y gwasanaethau deintyddiaeth lleiaf hygyrch yn y DU. Ond mae arolwg diweddar Cymdeithas Ddeintyddol Prydain o ddeintyddion ar y stryd fawr yn dweud wrthym y byddai mwy na thraean yn lleihau eu cytundebau GIG eleni, tra bod 13 y cant yn dweud y bydden nhw'n trosglwyddo eu cytundebau yn ôl yn gyfan gwbl. Nawr, i orffen, rydw i wedi clywed beth rydych chi wedi'i ddweud, Gweinidog; rydych chi wedi sôn ei fod yn ddarlun gwahanol iawn, ac am nifer gymharol fach o gontractau sy'n cael eu rhoi yn ôl. Ac rydych chi wedi sôn bod awydd gan ddeintyddion gael contractau newydd y GIG, ond nid yw hynny'n teimlo fel realiti i mi, oherwydd yn ardal fy mwrdd iechyd fy hun—nid yn unig yn fy etholaeth fy hun, ond ym Mhowys yn gyfan gwbl—nid oes un deintydd yn cynnig mynediad i glaf GIG newydd. Mae fy nghyd-Aelod Sam Rowlands wedi gwneud gwaith ymchwil tebyg yn y gogledd. Felly, nid yw'r hyn rydych chi'n ei ddweud yn eich datganiad heddiw yn cyd-fynd â realiti, ac rwyf am geisio deall pam.
Yn olaf, efallai y gallech roi asesiad cychwynnol i ni o rai o'r argymhellion a'r gwaith ac adroddiad gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd. Rwy'n gobeithio tynnu barn gychwynnol ar waith ein pwyllgor.
Diolch yn fawr, Russell. Rwy'n credu mai'r hyn wnes i geisio ei wneud yn glir yn fy natganiad agoriadol yw, mewn gwirionedd, bod yna—rydyn ni wedi cydnabod bod yna—system amlhaenog. Hynny yw, nid yw hyn yn rhywbeth newydd. Mae wedi bod yn wir erioed, bod system y GIG a system breifat wedi bodoli. Felly rwy'n cydnabod hynny'n llwyr; doeddwn i ddim yn ceisio gwadu bod hynny'n wir. Ac er fy mod i'n derbyn bod rhai pobl yn dweud nad ydyn nhw'n gallu fforddio deintydd y GIG, ac rwy'n deall yn llwyr fod tua 50 y cant o bobl yng Nghymru yn gymwys am ofal deintyddol am ddim, mewn gwirionedd. Dyna'r sefyllfa fel mae hi ar hyn o bryd. [Torri ar draws.] Mae 50 y cant o—
Gadewch i'r Gweinidog ateb, oherwydd mae gen i lawer o bobl sy'n dymuno siarad, a pho hiraf y mae pobl yn ymyrryd—wel, allwch chi ddim ymyrryd, ond po hiraf y mae pobl yn siarad ar eu heistedd, bydd rhywun yn methu â gofyn ei gwestiwn.
Felly, mae tua 45 y cant o'r cleifion sy'n cael triniaeth ddeintyddol y GIG ar hyn o bryd wedi'u heithrio rhag taliadau cleifion fel y mae, ac yna, pan godir tâl ar gleifion, os edrychwch ar faint maen nhw'n ei godi yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr, ar fand 1, mae pobl yn gorfod talu £14.70 yng Nghymru tra, yn Lloegr, mae'n £23.80; ar fand 2, mae'n £47 yng Nghymru, £65.20 yn Lloegr. Felly, rydyn ni'n cydnabod, mewn gwirionedd, fod angen i ni sicrhau bod yna allu i'r rhai nad ydynt yn gymwys i gael triniaeth am ddim, yn enwedig yn ystod argyfwng costau byw, ein bod wedi rhewi'r swm y mae'n rhaid i bobl ei dalu.
Rwy'n credu bod deintyddion, mae'n rhaid i ni ddeall, yn gontractwyr preifat. Allwn ni ddim eu gorfodi i weithio i'r GIG. Felly, er y byddwn i wrth fy modd yn dweud wrthoch chi, Russell, 'Wrth gwrs rydyn ni eisiau cynnig hyn i bawb', yn syml, does gen i ddim y pŵer i wneud hynny, oherwydd mae'n rhaid iddyn nhw benderfynu a ydyn nhw am gynnig yr opsiwn hwn ai peidio. Nawr, yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yw gweithio gyda nhw i weld pa mor bell y gallwn fynd gyda hyn, a'r realiti yw, mewn gwirionedd, yn sicr eleni, bod 80 y cant ohonynt wedi codi'r contract newydd hwnnw. Yr hyn rydyn ni wedi'i ddarganfod yw, pan ydyn ni wedi rhoi'r contractau hynny allan, eu bod wedi cael eu dychwelyd, ac mewn gwirionedd mae awydd i'w cymryd. Felly, efallai y bydd hi'n wahanol y flwyddyn nesaf, ond mae ein profiad presennol yn dweud wrthym, mewn gwirionedd, fod yr awydd yno. Ac er iddyn nhw awgrymu, er enghraifft, eu bod nhw wedi cynhyrfu braidd, bod angen mwy o amser arnyn nhw i ystyried y contract, rwy'n meddwl ein bod ni wedi dysgu o hynny y llynedd, a dyna pam y cyhoeddwyd cynnig amrywiad y contract eleni cyn y Nadolig. Felly, maen nhw wedi cael mwy o amser i wneud hynny.
Yn amlwg, rwy'n cyfarfod â Chymdeithas Ddeintyddol Prydain yn ystod yr wythnosau nesaf, a gadewch i mi ddweud wrthych chi fod 3,392 o gleifion newydd wedi'u gweld eleni ym Mhowys.
Diolch am y datganiad ac am ei rannu efo ni ymlaen llaw. Ond mae’n rhaid dweud ei fod o’n ddatganiad rhyfeddol mewn sawl ffordd, ac mae gen i ofn nad ydy i’w weld yn adlewyrchu realiti’r gwasanaeth deintyddol, na phrofiadau cleifion ar unrhyw lefel, bron. Mae’n un arall o’r datganiadau yna sy’n rhoi’r argraff un ai bod popeth yn iawn neu fod problemau mewn llaw, pan fo’r holl dystiolaeth o’n blaenau ni yn dangos nad ydy hynny’n wir. Mi oedd yr arwyddion yn wael yn gynnar yn y datganiad pan dywedodd y Gweinidog:
'Mae deintyddiaeth wedi bod yn un o'r gwasanaethau anoddach i'w hadfer yn dilyn pandemig COVID-19 ac yn esbonio, yn rhannol, pam mae pobl yn cael trafferth cael mynediad at ofal deintyddol y GIG.'
Mae’n gwbl disingenuous, mae gen i ofn. Wrth gwrs bod COVID wedi dod â heriau anferth i ddeintyddiaeth, fel yr holl wasanaethau iechyd a gofal. Mi oedd y rhai mewn deintyddiaeth yn broblemau oedd yn rhai dwys iawn, iawn cyn i COVID daro. Ac mae pethau'n mynd yn waeth; dwi am ddyfynnu eto.
Rwyf wedi clywed datganiadau yn ddiweddar yn dweud bod deintyddiaeth y GIG bellach yn system ddwy neu dair haen, a'r ffaith yw bod system ddeintyddol breifat wedi bod erioed—dewis arall sefydledig. Rwy'n credu y bydd llawer o bobl yn ei chael hi'n syfrdanol clywed Gweinidog Llafur yn cyfeirio at y rhaniad real iawn hwnnw rhwng y bobl ffodus ac anffodus mewn ffordd mor ddidaro. Mae'r Gweinidog yn cyfeirio at y system ddwy haen yn unig: y bobl ffodus ac anffodus. Gall fy nghynnwys i ar y rhestr honno o bobl sydd wedi bod yn disgrifio system tair haen, y dewisodd hi beidio â mynd i'r afael â hi.
Efallai y gallaf egluro beth rydyn ni'n ei olygu wrth y drydedd haen honno. Nid yw'n ymwneud â fforddiadwyedd triniaeth y GIG. Mae yna bobl sy'n gallu fforddio mynd yn breifat. Mae yna bobl sy'n methu fforddio mynd yn breifat a sy'n cael triniaeth y GIG. Ac wedyn mae yna bobl sy'n methu cael triniaeth y GIG o gwbl. Dyna'r drydedd haen. Llawer o'r hyn sy'n ysgogi'r diffyg mynediad hwnnw yw'r twf sydd wedi bod yn y sector breifat. Mae pobl yn mynd yn breifat ac yn cynyddu'r sector preifat hwnnw'n union oherwydd nad ydyn nhw'n gallu cael mynediad at ofal deintyddol y GIG. Mae hwn yn gylch dieflig ac mae'n gwaethygu.
Pan fyddaf yn clywed deintyddion yn dweud na fydd gwasanaeth deintyddol gan y GIG yng Nghymru mewn ychydig flynyddoedd, wyddoch chi beth? Nid yw'n anodd credu hynny wrth edrych ar y trywydd rydym arno ar hyn o bryd. Nid ydym yn creu system haenog, meddai'r Gweinidog. Wel, mae'r Llywodraeth hon yn llywyddu dros system tair haen sydd wedi torri, ac yn ei gwreiddio dydd ar ôl dydd.
Nawr, mae'r Gweinidog yn cyfeirio at y newidiadau i gytundebau a’r bwriad o ehangu mynediad at wasanaethau NHS. Mae’n dweud bod 140,000 o gleifion newydd wedi cael eu gweld. Ar y wyneb, wrth gwrs, mae hynny’n swnio’n dda, ond mae’n gwbl blaen nad yw hyn yn gynaliadwy. Roeddwn i’n siarad ddoe efo deintydd sy’n gwbl ymrwymedig i’r NHS, a oedd wedi llwyddo i daro’r targed a chofrestru cannoedd o gleifion newydd. Ond roedd y broses wedi bod mor hunllefus—wedi rhoi cymaint o straen ar staff—ei bod hi dal ddim yn cynnig cymhelliad iddyn nhw weithio mewn ffordd ataliol, fel y buasent yn ei licio. Maen nhw wedi penderfynu rhoi un rhan o dair o’u cytundeb NHS yn ôl ar gyfer y flwyddyn nesaf, gan waethygu’r broblem.
Mae’r Gweinidog yn ddiweddarach yn dweud mai bach iawn, iawn yw’r cytundebau sy’n cael eu rhoi yn ôl i’r byrddau iechyd. Wel, dyna un nad ydy’r Gweinidog yn gwybod amdano eto. Mae fy etholaeth i wedi colli un o bob tri deintydd NHS mewn blwyddyn. Mae’r Gweinidog yn awgrymu, pan fo hynny’n digwydd, nad oes problem cael darparwyr newydd. Mi allaf i ddweud wrth y Gweinidog fod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, ac mi wnaf i eu dyfynnu nhw—dydyn nhw ddim yn hyderus y byddwn nhw’n gallu dod o hyd i ddarparwr newydd.
Mi wnaf i ddefnyddio fy holl amser yn fan hyn. Mae gen i lawer y gallwn i fod yn ei ddweud. Mae’r Gweinidog yn ailadrodd yn gyson mai’r ateb ydy gweld pobl yn llai aml—awgrymu mai’r broblem sydd gennym ni yw bod pobl y gwrthwynebu hynny. Dydw i ddim yn gweld gwrthwynebiad i hynny. Rydw i’n gweld pobl sy’n hapus iawn i ddilyn y canllawiau a gweld cleifion yn llai aml. Y broblem sydd gennym ni yw diffyg cynaliadwyedd. Does prin sôn yma am hyfforddi mwy o ddeintyddion. Mae angen hynny er mwyn cynaliadwyedd. Mae angen cael mwy o ddeintyddion preifat i ddod yn ôl i’r NHS.
Rwy'n mynd i gyfeirio yn fy eiliadau olaf un, Dirprwy Lywydd, at y datganiad olaf gan y Gweinidog.
'I gloi, i roi sicrwydd i Aelodau mai deintyddiaeth yw un o fy mhrif flaenoriaethau, dwi eisiau datblygu gwasanaeth deintyddol y GIG yng Nghymru sy'n deg i ddeintyddion'— mae'n amlwg nad yw hynny'n wir; maen nhw'n gadael yn eu heidiau—
'sy'n cyflawni ar gyfer risg ac anghenion y boblogaeth'— yn amlwg, nid yw'n gwneud hynny—
'sy'n seiliedig ar egwyddorion atal'— mae deintyddion yn ymbil yn daer i allu gweithio mewn ffordd ataliol—
'a fydd yn galluogi pawb i gymryd cyfrifoldeb dros eu hiechyd y geg eu hunain.'
Wel, rwy'n cytuno â'r Gweinidog ar hynny, achos dyna'r cyfan y gall pobl ei wneud ar hyn o bryd.
Gwrandewch, rwy'n derbyn nad yw popeth yn berffaith. Rwy'n derbyn bod llawer iawn o waith i'w wneud yn y maes anodd iawn yma. Ond, fel rwy'n ei ailadrodd, nid ydyn ni'n cyflogi'r bobl hyn yn uniongyrchol. Maen nhw'n ymarferwyr annibynnol, ac mae'n rhaid i ni eu darbwyllo i ddod gyda ni ar y daith.
Nawr, mae'n wir dweud bod COVID-19 wedi cael effaith ar y gwaith roedden nhw'n gallu ei wneud o'r blaen. Dydyn nhw ddim wedi dychwelyd i'r hyn roedden nhw'n ei wneud cyn y pandemig, a hynny oherwydd bod yn rhaid iddyn nhw ystyried y materion ychwanegol mewn perthynas â'r potensial i COVID-19 ledaenu. Felly, mae rhagor o gyfyngiadau nag oedd cyn y pandemig.
Mae ein contract yn symud pobl o'r rhai ffodus i'r rhai anffodus. Dyna'n union beth rydyn ni'n ceisio ei wneud. Mae yna bobl sydd heb allu mynd at y deintydd ers blynyddoedd, ac erbyn hyn mae 140,000 ohonyn nhw wedi cael mynediad am y tro cyntaf. Felly, nid yw hynny'n rhywbeth sy'n digwydd yn Lloegr. Rydym wedi newid y contract hwn, ac mae Lloegr yn edrych ar ein model ni nawr i weld beth y gall ei ddysgu gennym ni. Ond, wrth gwrs, mae angen i ni fynd ymhellach.
Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni ddeall nad yw'n ymwneud â chyflenwad yn unig, mae hefyd yn ymwneud â fforddiadwyedd a materion trafnidiaeth a'r holl bethau eraill hyn. Un o'r pethau rwy'n poeni ychydig amdano yw ein bod yn gweld pocedi lle rydyn ni'n gweld crynodiadau lle mae deintyddion wedi trosglwyddo'r cytundebau yn ôl. Mae hynny'n rhywbeth sy'n fy mhryderu i. Yn sicr, yn yr ardal rydw i'n ei chynrychioli, mae hynny'n bryder, a dyna pam, er enghraifft, mewn ardaloedd gwledig, rydym wedi sicrhau bod £5,000 o'r arian ychwanegol hwn ar gael. Yn Betsi, mae gennym ni'r 26,000 o apwyntiadau ychwanegol yma a roddwyd, ac, yn hollbwysig, fel y soniodd y Prif Weinidog y bore yma, rydyn ni'n datblygu'r ysgol ddeintyddol newydd hon yn y gogledd.
Mae ehangu'r gymysgedd o sgiliau deintyddol yn allweddol i'r hyn rydyn ni'n ceisio ei wneud yma. Gwnaethoch chi ofyn i mi am hyfforddiant—wel, erbyn hyn, mae gennym ni 67 o hyfforddeion deintyddol newydd, mae gennym ni 50 o hyfforddeion gofal deintyddol, mae gennym ni hylenwyr newydd a therapyddion newydd. Rydyn ni'n gobeithio y bydd yr holl bobl hyn yn cyfrannu at y gymysgedd ddeintyddol honno, ac, yn amlwg, rydyn ni'n siarad â Llywodraeth y DU i wneud yn siŵr ei bod yn newid y rheolau fel na all rhai o'r bobl hyn agor apwyntiad deintyddol yn unig, ond ei gau hefyd. Mae hynny wedi bod yn rhan o'r broblem—yn gyfreithiol, dyw hynny ddim wedi bod yn bosibl o fewn y rheolau ar hyn o bryd.
Byddwn i'n gwrthod eu bod nhw'n gadael yn eu heidiau. Dydyn nhw ddim yn gadael yn eu heidiau. Does dim tystiolaeth i awgrymu eu bod yn gadael yn eu heidiau. Mae gennym ni 80 y cant o bobl sydd wedi ymuno â'r cytundebau newydd. Rhoddais i'r ffigyrau i chi: rhyw 420 neu fwy a oedd gennym ni cyn y pandemig, a dim ond 20 sydd wedi trosglwyddo'n ôl. Dyna'r ffigyrau, dyna'r ffeithiau. Efallai nad ydych chi'n hoffi'r ffeithiau, efallai y byddwch chi—[Torri ar draws.] Wel, dydyn nhw ddim wedi ei drosglwyddo'n ôl eto, ac, fel rwy'n dweud, gadewch i ni barhau â'r sgwrs, a dyna pam rwy'n awyddus iawn i wneud yn siŵr bod gen i ddealltwriaeth wirioneddol o bryderon y gweithlu deintyddol a pham fy mod i'n cyfarfod â'r gweithlu yn fuan iawn.
Mae gen i lawer o Aelodau sy'n dymuno siarad, yn naturiol, am y mater hwn, oherwydd mae'n effeithio ar ein holl etholaethau, gan gynnwys fy un i. Ond os gallwch gadw at eich un munud, gallwn sicrhau bod pawb yn gofyn ei gwestiwn. John Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, tybed a allech chi fynd i'r afael â sefyllfa a ddigwyddodd yn fy etholaeth yng Nghil-y-coed, lle, ym mis Hydref y llynedd, ysgrifennodd deintydd o'r GIG at ei 10,000 o gleifion y GIG yn dweud wrthyn nhw ei fod yn lleihau'r nifer i 2,500 yn effeithiol o 1 Ionawr eleni, a byddai'n rhaid i bob un o'r 10,000 hynny ailymgeisio am le yn y GIG pe baen nhw eisiau lle. Felly, arweiniodd hynny at sefyllfa o bryder mawr ymysg y gymuned leol, a'r sefyllfa nawr yw bod y rhan fwyaf o'r bobl yr effeithiwyd arnyn nhw, nad ydynt wedi aros yn y practis hwnnw fel cleifion y GIG, yn gorfod teithio sawl milltir i gael mynediad at ddeintyddiaeth y GIG, neu maen nhw wedi cofrestru fel cleifion preifat. Erbyn hyn, bydd gan rai ohonyn nhw anghenion deintyddol heb eu diwallu am nad ydyn nhw, gan eu bod yn bobl agored i niwed, mewn sefyllfa i deithio'r pellter sydd ei angen ar gyfer triniaeth y GIG ac, wrth gwrs, dydyn nhw ddim yn gallu talu'n breifat.
Un mater arall, Gweinidog, sef bod gen i ferch 13 oed sydd wedi cael gwybod y bydd yn rhaid iddi aros tair blynedd i gael sythwr dannedd wedi'i osod, tybed a allech chi sôn rhywbeth am y sefyllfa honno. Diolch.
Diolch yn fawr. Rwy'n cydnabod bod amgylchiadau unigol, ac mae 20 o'r rheini y mae'n rhaid i ni eu hystyried, a dyna pam maen nhw wedi mynd. Ond, fel rwy'n dweud, beth sy'n digwydd yw nad ydych chi'n colli apwyntiadau deintyddol y GIG yno; maen nhw'n cael eu hail-dendro, maen nhw'n mynd at rywun arall. Nawr, yr hyn rwy'n ei gydnabod yw y gallai hynny olygu nad yw pobl yn gallu cael mynediad i'r hyn a arferai fod yn eu cymuned ac mae'n rhaid iddyn nhw fynd ymhellach i ffwrdd. Ac mae hynny'n creu rhwystr arall o ran cael mynediad, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth rwy'n pryderu'n fawr yn ei gylch, ac rwy'n bryderus iawn ynghylch plant—fel rydych chi wedi sôn; mae gennych chi'r un achos yna. Ond yr hyn sydd gen i ddiddordeb ynddo nawr yw gweld, ystyried, mewn gwirionedd, a allwn ni feddwl am greu math newydd o fodel yma. Yn benodol, gadewch i ni ystyried plant.
Felly drwy'r cynllun treialu hwn rydyn ni'n ei gynnal yn y gogledd, mae uned symudol yn mynd i mewn i'r ysgol, yn gweld pob plentyn yn yr ysgol. Nid oes o reidrwydd angen deintydd; gallwn ddefnyddio therapyddion deintyddol i wneud y gwaith hwn. Ac rwy'n credu y bydd yn ddiddorol iawn gweld canlyniadau hwnnw, ac, os yw'n gweithio, rwy'n credu bod hwnnw'n fodel yr hoffwn i ystyried ei gyflwyno o ddifrif ledled Cymru.
Rwy'n meddwl—. Gwrandewch, mae'n anodd iawn—gweithdrefnau orthodontig, mae hynny wastad yn her, ac rwy'n credu bod rhai heriau gwirioneddol ynghylch hynny o ran y costau a phob math o bethau. Mae'n rhaid i bob un ohonom ni rwy'n credu, ystyried ein sefyllfa o ran costau yn y dyfodol, oherwydd mae yna rai heriau go iawn o'n blaenau ni. Mae cyfyngiadau enfawr ar y gyllideb yn dod, ac mae angen i ni ystyried yn ofalus iawn beth fydd ein blaenoriaethau yn y dyfodol.
Dydw i ddim yn mynd i fynd dros yr hyn mae pobl eraill wedi'i ddweud, Gweinidog, ond rwyf am ddewis rhywbeth o'ch datganiad sy'n gadarnhaol iawn, yn fy marn i, ac rwy'n meddwl ei fod yn ymwneud â phlant a'r cynllun treialu rydych chi'n ei wneud ym Mlaenau Ffestiniog o ddod â'r uned deintydd symudol i mewn i ysgolion. Yr hyn hoffwn i wybod yw rhai cwestiynau ynghylch hynny. Am faint y mae'r cynllun treialu hwnnw'n mynd i bara ym Mlaenau Ffestiniog? Pa mor hir y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i gymryd i wneud y gwerthusiad ynghylch hynny, a phryd y gallwn ni weld hynny'n cael ei gyflwyno'n iawn ledled Cymru? Oherwydd, mae rhai rhannau o fy etholaeth i lle mae angen hyn, a gorau po gyntaf y daw.
Diolch yn fawr. Wel, rydw i ar ymgyrch gyda hwn, felly rwy'n awyddus iawn i weld hyn. Dyma rywbeth rydw i wedi ceisio ei ysgogi'n fawr. Yr hyn rwy'n awyddus i'w wneud yw sicrhau bod gennym o leiaf chwe mis o gyflwyno'r rhaglen a gweld sut mae hynny'n mynd, ac yna, yn amlwg, bydd yn rhaid i ni edrych ar y gwerthusiad. Ond, yr hyn a oedd yn fuddiol ym Mlaenau Ffestiniog yw ein bod, mewn gwirionedd, yn gwybod bod gan Betsi yr unedau symudol hyn y gallem eu defnyddio, a hefyd rydym wedi gorfod sicrhau bod gan yr ysgol fynediad i'r cyflenwadau pŵer cywir a'r cyflenwadau dŵr a'r holl bethau eraill hynny. Felly, mae rhai pethau technegol ac ymarferol y mae'n rhaid i ni eu hystyried cyn i ni allu ei gyflwyno i bob ysgol yng Nghymru. Ac yn amlwg, bydd pris ar hyn, ond, mewn gwirionedd, yr hyn y byddwn yn ei wneud, i bob pwrpas, yw symud adnoddau i ysgolion, yn hytrach na gweld pobl yn cael eu gweld yn y gymuned.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae arnaf i ofn nad ydy cynnwys eich datganiad chi yn cyd-fynd yn y mymryn lleiaf efo’r hyn dwi yn ei glywed gan gleifion a deintyddion yn etholaeth Arfon. Yn ôl arolwg o ddeintyddion ar draws y gogledd, mae 88 y cant yn credu nad oes ganddyn nhw’r capasiti i weld y cleifion newydd sy'n ddisgwyliedig o dan y cytundeb newydd. Mae 96 y cant yn dweud bod y cleifion sydd efo nhw'n barod yn rhoi adborth negyddol ac yn cwyno am fethu â chael mynediad at ofal deintyddol. Mae’n ymddangos i mi fod deintyddion yn boddi o dan y llwyth gwaith newydd, a hynny yn sgil targedau nad oes modd eu cyflawni. Gaf fi ofyn ichi felly ydy'r cytundebau newydd yma yn gosod disgwyliadau llawer rhy uchel ar ddeintyddion? Ac rydych wedi dweud y byddwch chi yn cael trafodaethau ar gytundebau ar gyfer 2024-25 ac ymlaen o hynny, ond, yn sgil yr holl bryderon yr ydym ni yn eu clywed, wnewch chi roi ymrwymiad y prynhawn yma i adolygu'r cytundebau yn ddi-oed, os gwelwch yn dda?
Diolch yn fawr. Wel, y ffaith yw bod y deintyddion yma wedi delifro i raddau helaeth yn barod. So, beth rôn i'n ei ofyn oedd eu bod nhw'n siffto; yn lle gweld pobl sydd gyda dannedd iach yn aml, fel rôn nhw'n ei gweld yn y gorffennol—. Mae tua 60 y cant o bobl gyda dannedd iach, a dŷn nhw ddim angen mynd, yn ôl NICE, yn fwy nag unwaith pob dwy flynedd. Nawr, rhain yw guidelines NICE—nid fy guidelines i, ond guidelines NICE. Ac felly, rŷn ni wedi gweithio ar y sail bod hyd yn oed os oedd 20 y cant o'r rheini yn gweld y deintydd yn llai aml, rŷch chi'n cyrraedd pwynt lle rŷch chi'n gallu agor y cyfle i bobl newydd weld deintyddion am y tro cyntaf. Felly, dwi'n meddwl ein bod ni yn mynd i'r cyfeiriad cywir, ac, wrth gwrs, yng ngogledd Cymru, beth fyddwn ni'n gweld gyda'r academi newydd, fydd yn agor am chwe diwrnod yr wythnos o'r hydref—mi fyddan nhw'n cael cyfle gweld 12,000 i 15,000 o gleifion yn flynyddol.
Rwy'n euog o hynny; rydw i'n un o'r bobl hynny sydd wedi defnyddio'r ymadrodd 'system ddwy haen', a gadewch i mi ddweud wrthych chi pam, oherwydd rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn. Rwy'n cydnabod bod canllawiau NICE wedi newid—rwy'n meddwl bod pob un ohonom yn cydnabod hynny; rydyn ni i gyd yn clywed hynny. Rwy'n gwybod bod angen cymysgedd o sgiliau mewn deintyddiaeth, ac rwy'n meddwl bod hynny'n cael ei dderbyn. Mae taliadau deintyddol wedi bod i oedolion yn y gorffennol erioed. Rwy'n cofio hynny sbel yn ôl. Rwy'n gwybod bod system iechyd breifat wedi bod ym maes deintyddiaeth, yn union fel sydd mewn unrhyw system iechyd. Ond yr hyn nad ydw i'n ei ddeall yw sut mae hynny'n cyd-fynd â'r hyn rydw i, ac eraill yn ôl pob golwg, yn ei glywed o un dydd i'r llall, dro ar ôl tro. Ac rwy'n credu, Gweinidog, rhan o hynny yw ei bod yn ymddangos bod gwrthwynebiad i weld y realiti. Y gwir yw'r hyn rydyn ni'n ei glywed: mae pobl yn mynd at ddeintyddion, fel yr un a ddywedodd John Griffiths, ac maen nhw'n dweud, 'Mae'n ddrwg gen i, mae'n rhaid i chi ddadgofrestru a chofrestru eto, mewn ciw'; y realiti y dywedir wrth deuluoedd, 'Mae'n ddrwg iawn gen i, ond rydym yn bractis gofal iechyd preifat erbyn hyn.' Rydw i wir yn meddwl mai un o'r pethau mwyaf gwerthfawr fyddai edrych ar sut y gallwn ni ddod â phopeth ei gilydd yn gyffredinol a pheidio â chael y system ddwy haen honno. Diolch. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane. Rwy'n cydnabod bod system ddwy haen. Rwyf wedi gwneud hynny'n hollol glir. Bu system ddwy haen erioed. Ac mewn byd delfrydol, byddwn i wrth fy modd pe gallem fod â system lle roedd pawb yn gallu cael mynediad at ddeintydd y GIG. Ond, mewn gwirionedd, mae'n anodd iawn dod o hyd i ddeintyddion. Dyna'r peth cyntaf. Rydym ar fin dechrau ymgyrch newydd i weld a allwn ddenu mwy o ddeintyddion o dramor. Ond, mewn gwirionedd, rwy'n credu bod yn rhaid i ni ailfeddwl y model. Rwy'n meddwl bod rhaid i ni feddwl sut rydyn ni'n defnyddio'r gymysgedd sgiliau mewn ffordd wahanol iawn. Ac rwyf hefyd yn meddwl mai rhai o'r ffigyrau rwyf wedi eu nodi heddiw, dyna'r realiti. Rwy'n rhoi ffeithiau i chi. Nawr, mae yna lawer o sylw—rwy'n deall bod llawer o sylw—ond rydyn ni'n sôn am 20 allan o 420 o feddygfeydd yn trosglwyddo contractau yn ôl. Nawr, efallai y bydd mwy ohonyn nhw'n dweud, 'Wel, doedden ni ddim yn hoffi hynny, felly rydyn ni'n symud y flwyddyn nesa', ond, fel y mae pethau ar hyn o bryd, a dyna pam rwy'n meddwl bod angen i ni gael y sgyrsiau hynny gyda deintyddion i wneud yn siŵr ein bod ni'n cyrraedd y lle iawn gyda hyn—. Ond, eleni, y gwir amdani yw, roedd gennym darged o 114,000 o apwyntiadau deintyddol newydd y GIG, ac mae gennym ni 140,000. Felly, rydyn ni wedi mynd ymhell tu hwnt i'n huchelgais.
Rwyf eisiau talu teyrnged i Jane am y gwaith rydych chi'n ei wneud, yn gyson ac yn ddiflino, ar ddeintyddiaeth, ac rwy'n gwybod mai un o'r pethau rydych chi wedi bod yn ymgyrchu amdano yw cofrestrfa ddeintyddol, cofrestrfa ddeintyddol genedlaethol, ac rydw i am ei gwneud yn glir ein bod yn gobeithio y bydd hynny'n rhywbeth y byddwn ni'n gallu ei gyflawni yn y dyfodol, yn amodol, yn amlwg, ar arian, sy'n mynd i fod yn rhwystr cyson arnom yn y dyfodol.
Gweinidog, diolch am y datganiad, ac rwyf wedi fy nghalonogi eich bod yn datgan bod deintyddiaeth yn un o'ch prif flaenoriaethau. A hyd yn oed cyn COVID-19, bu tipyn o hanes hir ac amrywiol ers dadgofrestru. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn sylweddoli hynny. Er hynny, i lawer o fy etholwyr, mae deintyddiaeth y GIG yn annealladwy o hyd ar adegau. Rwy'n croesawu'r llu o fentrau newydd ym maes deintyddiaeth rydych chi a Llywodraeth Cymru wedi eu cyflwyno, a'r rhai sy'n dwyn ffrwyth. Mae hynny'n cael ei groesawu, yn ogystal â'r 140,000 o gleifion newydd sydd bellach wedi'u gweld. Er hynny, rwyf wedi gwrando'n ofalus ar y pryderon a fynegwyd gan rai deintyddion sydd, o dan y model Unedau o Weithgaredd Deintyddol a'r model newydd o'r enw 'metrigau', mae'r Llywodraeth yn dal i bwysleisio nifer y gwahanol gleifion a welwyd, ac mae’n ymddangos nad oes unrhyw gredyd am y cwrs penodol o driniaeth a wnaed, h.y. dim gwahaniaethu rhwng pont gymhleth neu lenwad syml, a dywedir mai'r unig gredyd a roddir yw bod y claf unigol wedi ei weld a'i fod wedi cael cwrs o driniaeth. Felly, sut fyddai Llywodraeth Cymru'n ymateb i'r sylw hwnnw, bod hwn yn dal yn ffurf eithaf amrwd o ddadansoddi nad yw'n canolbwyntio'r pwyslais ar arbenigedd deintyddion a'r gwaith medrus y maen nhw'n ei gyflawni? A pha ymgynghoriad, Gweinidog, sydd wedi'i gynnal gyda'r proffesiwn deintyddiaeth ar y model newydd ac arloesol hwn o weithio?
Diolch yn fawr. Wel, byddwch yn ymwybodol ein bod ni wedi gweld 24,500 o gleifion newydd y GIG yn cael eu gweld o ganlyniad i'r cytundeb newydd. Mae'r cwrs triniaeth a roddir, yn amlwg, yn rhywbeth rwy'n credu bod angen i ni wneud yn siŵr bod gennym ni hynny yn iawn, ac o ran ymgynghori, mae ymgynghoriad sylweddol iawn wedi bod. Fel rwy'n dweud, maen nhw wedi gweld copi o'r hyn sy'n cael ei gynnig ar gyfer y flwyddyn nesaf cyn y Nadolig, felly rwy'n gobeithio bod hynny wedi rhoi digon o amser iddyn nhw ei ystyried, ac yn amlwg byddwn ni'n cynnal y sgyrsiau hynny gyda'r awdurdodau deintyddol.
Diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw. Fel y gwnes i dynnu'ch sylw atoch yr wythnos diwethaf, fe gysylltais â 69 o ddeintyddion GIG yn y gogledd yn ddiweddar. Siaradais â 57 o'r deintyddfeydd hynny yr wythnos ddiwethaf, a dim ond pedwar oedd yn cymryd cleifion newydd, ond roedd gan y pedwar yna restrau aros enfawr. Yr hyn a amlygodd hynny i mi yw'r her sylweddol y mae fy nhrigolion yn ei hwynebu o ran gallu gweld deintydd GIG yn y gogledd.
Gweinidog, rwy'n croesawu ymdrechion sy'n cael eu gwneud i recriwtio mwy o ddeintyddion. Rwy'n sicr yn croesawu'r ymdrechion hynny sy'n cael eu gwneud, ynghyd â threialon defnyddio'r unedau deintyddol symudol mewn ysgolion, a allai, fel y soniodd fy nghyd-Aelodau, fod yn gost-effeithiol ac yn sicr yn helpu i leihau'r rhestrau aros hynny. Ond fel eraill yn y Siambr yma heddiw, rwy'n anghytuno'n benodol â rhannau o'ch datganiad, ac rwy'n dyfynnu, lle dywedwch,
'Mae gofal iechyd preifat yn ddewis arall sefydledig a derbyniol,' ac ewch ymlaen i ddweud,
'mewn gwirionedd bydd yn well gan rai fynd yn breifat, gan greu marchnad ranedig.'
Dim ond i fod yn glir iawn o'm hochr i, a'm trigolion, nid yw hyn yn rhywbeth y byddai'n well gan y rhan fwyaf o'm trigolion ei wneud; mae'n rhywbeth y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud oherwydd nad ydyn nhw'n gallu gweld y deintyddion GIG hynny. Yr hyn fyddai'n well gan fy nhrigolion yw gallu gweld deintyddion y GIG, oherwydd eu bod yn talu eu hyswiriant cenedlaethol, maen nhw'n talu eu treth incwm, maen nhw'n talu eu trethi, ac maen nhw'n disgwyl cael gwasanaeth gofal iechyd am ddim o ganlyniad i hynny. Felly, yn sgil hyn, Gweinidog, ac yng ngoleuni eich datganiad yma heddiw, ydych chi'n meddwl y bydd y mesurau rydych chi wedi'u hamlygu yma heddiw yn mynd yn ddigon pell i fynd i'r afael â'r pryderon sydd gan fy nhrigolion o ran gallu gweld deintydd GIG?
Diolch yn fawr. Wel, rydym ni'n ymdrechu i recriwtio deintyddion newydd, ac i fod yn onest, wnaeth Brexit ddim helpu'r sefyllfa, ac yn sicr rwy'n gwybod bod llawer o ddeintyddion dwyrain Ewrop wedi mynd adref, yn dilyn Brexit.
Dim ond o ran y mater am dalu am driniaeth ddeintyddol, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nodi bod eithriadau i bobl na all fforddio talu, a gallaf nodi beth yw'r eithriadau hynny os hoffech chi, ond y ffaith yw bod pawb—. Os nad ydych chi wedi'ch eithrio, rydych yn talu'r taliadau hyn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn deall. Nid yw hyn yn rhad ac am ddim, ac mae'n bwysig iawn bod pobl yn deall bod disgwyliad, yng Nghymru, yn Lloegr, yn yr Alban, yng Ngogledd Iwerddon, mewn gwirionedd bod yn rhaid i chi dalu am driniaeth.
Mewn ymateb i FOI gen i ychydig o wythnosau yn ôl, mae yna 11,000 o bobl yn y rhanbarth rŷn ni'n dau yn ei gynrychioli ar restr aros i gofrestru gyda deintydd NHS. Llynedd, fe wnaeth y BBC arolwg ar draws y Deyrnas Gyfunol, yn cynnwys ein rhanbarth ni, a oedd yn dangos nad oedd capasiti gan unrhyw ddeintydd NHS i gymryd unrhyw gleifion ychwanegol. Felly, beth bynnag mae'r datganiad yma'n dweud am gytundebau, mae yna anniddigrwydd mawr yn bodoli. Mae fy neintydd i yn Llandeilo—a dwi wedi bod gyda deintydd NHS ers blynyddoedd lawer—wedi ddweud wrthyf i rhyw dair wythnos yn ôl ei fod e’n rhoi ei gytundeb yn ôl a bod e bellach yn mynd yn breifat. Mi wnes i edrych i weld os oes yna unrhyw ffordd allwn i fynd at ddeintydd NHS arall. Yn sir Gâr mae 3,500 ar y rhestr aros. Does yna ddim gobaith gen i. Felly, ydy'r Gweinidog yn cytuno â fi, i deuluoedd ar incwm isel, ydy mynd yn breifat yn 'acceptable alternative'?
Wel, un o'r pethau rŷn ni'n treial ei wneud, a bydd Cefin yn ymwybodol o ba mor anodd yw hi i recriwtio pobl i gefn gwlad Cymru o ran deintyddiaeth, ac mae hynny'n creu mwy o broblem yng nghefn gwlad nag yw hi, efallai, yn rhai o’n trefi ni, a dyna pam mae yna broblem ychwanegol, dwi'n meddwl, rŷn ni'n ei gweld yn ein rhanbarth ni. Yn sicr, dwi'n ymwybodol bod Llandeilo yn un o'r llefydd yna lle maen nhw wedi rhoi’r cytundeb yn ôl—un o'r 20. Mae rhai eraill wedi rhoi eu cytundebau yn ôl yn Hwlffordd, yn Aberteifi ac yn Abergwaun. Felly, mae yna glwstwr, mwy neu lai, sy'n agos at ei gilydd yn fanna, ac mae hynny yn creu trafferthion ychwanegol, a dyna pam rŷn ni wedi rhoi'r £5,000 ychwanegol yma i drio temtio pobl i sicrhau eu bod nhw'n gwneud eu hyfforddiant nhw yng nghefn gwlad Cymru.
Gaf i jest bwysleisio felly, rydyn ni'n sôn—? Yr etholwyr sy'n cysylltu efo ni, mae nifer yn gymwys am driniaeth am ddim, ond yn methu cael deintydd i wneud y gwaith. Dyna ydy'r categori rydym ni'n sôn amdano fo. A dwi ddim wedi gweld eglurder o ran hynny o gwbl.
Os dwi'n edrych, o ran Canol De Cymru, dyma rai o'r ffeithiau sydd wedi dod gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain: 18 y cant o ddeintyddion yn debygol o stopio darparu unrhyw wasanaethau’r gwasanaeth iechyd a mynd yn breifat yn unig; 39 y cant am leihau faint o waith maen nhw am ei wneud i'r gwasanaeth iechyd. Gaf i ofyn yn benodol, felly? Rydych chi wedi dweud efallai bod y data sydd gennych chi rŵan ddim yn adlewyrchu hynny, ond dyma rydyn ni'n ei glywed sydd am ddigwydd.
A fedrwch chi roi eglurder, os gwelwch yn dda, faint sydd wedi lleihau cytundeb—nid eu rhoi nhw'n ôl, ond faint sydd wedi lleihau? Dydyn ni ddim wedi cael eglurder ar hynny. Dwi'n clywed fwyfwy yn fy rhanbarth i am y cymhlethdodau mae deintyddion yn eu gweld oherwydd natur a dwyster y problemau. Ac mae yn ddeifiol iawn, rhai o sylwadau’r deintyddion. Mae yna fwy o amser maen nhw ei angen efo’r cleifion hyn, ac maen nhw yn poeni bod yr holl newidiadau sy'n mynd i fod yn mynd i ragfarnu yn erbyn ardaloedd gyda lefelau uchel o anghenion iechyd.
Gaf i ofyn hefyd ai eich neges heddiw i bobl Cymru ydy y dylai pawb sy'n medru fforddio mynd yn breifat ar gyfer deintyddiaeth wneud hynny? Oherwydd dyna dwi'n ei glywed.
Diolch, Heledd. Wel, dwi'n meddwl ei fod e’n glir bod y rheini sydd yn rhai o'r 140,000 sydd wedi cael cyfle i gael triniaeth am y tro cyntaf ers sbel, ac mae'r rheini ar gael—ni sy'n talu am y rheini. Felly, mae'r cytundeb yn gwneud yn siŵr bod yna gyfle iddyn nhw gael yr help sydd ei angen arnyn nhw. Felly, os ydyn nhw'n eligible ar gyfer deintyddiaeth am ddim, wedyn mi fyddan nhw'n cael deintyddiaeth am ddim.
Beth rŷn ni'n amlwg yn ei weld nawr yw sefyllfa lle mae deintyddion wedi bod yn trin pobl sydd angen jest check-up—60 y cant ohonyn nhw sydd angen check-up—ac mae hynny'n hawdd i'w wneud. Yn amlwg, os ŷch chi’n cael rhywun sydd heb fod i'r deintydd am sbel, ers blynyddoedd, wedyn rŷch chi'n bownd o weld mwy o gymhlethdodau, a dwi'n deall, felly, pam fyddai hynny yn creu mwy o anhawster ar gyfer y deintyddion, ac mae hyn yn strategaeth sy'n hollol glir gennym ni. Dyna beth rŷn ni eisiau ei weld. Rŷn ni eisiau gweld pobl sydd heb gael y cyfle i weld deintydd mewn sbel hir yn cael y cyfle, a'r rheini sydd ddim angen gweld deintydd, achos bod eu cegau nhw'n iach, eu bod nhw ddim yn gweld y deintydd mor aml ag oedden nhw, achos mae’r NICE guidelines yn dweud bod dim angen gwneud hynny.
Ac yn olaf, Jenny Rathbone.
Diolch yn fawr iawn. Llongyfarchiadau ar y gwaith rydych chi'n ei wneud i gynyddu nifer y bobl sy'n cael gweld deintydd mewn gwirionedd. Mae hynny'n newyddion da iawn. Roeddwn i eisiau mynd yn ôl i'r uned ddeintyddol symudol fel y ffordd o sicrhau bod pob plentyn yn cael ei weld gan rywun sydd wedi cymhwyso'n briodol, oherwydd rydym ni'n gwybod bod nifer y dannedd sydd ar goll, wedi'u llenwi neu bydru yn ddangosydd da iawn o amddifadedd. Arferai fod gennym ni uned ddeintyddol symudol yn Llanedeyrn ar safle'r hyn yw'r ganolfan llesiant yn y Maelfa erbyn hyn, y mae'r Gweinidog yn gyfarwydd â hi. Meddwl oeddwn i tybed a oes gennym ni fwy o unedau deintyddol. Nid wyf wedi ei weld ers y pandemig; a yw'n dal i fodoli, ac os felly, sut mae'n cael ei ddefnyddio? A ellir ei ddefnyddio felly i gynnig gwasanaethau i bobl mewn ardaloedd cynnyrch ehangach o amddifadedd, lle rydym ni'n gwybod ei bod yn debygol y bydd mwy o ddannedd wedi pydru wedi'u colli?
Diolch, Jenny. Wel, rwy'n teimlo'n gyffrous iawn am y dull newydd hwn. Credaf fod hyn yn rhywbeth rwy'n gobeithio fydd yn gweithio ym Mlaenau Ffestiniog. Os ydym ni'n gweld ei fod yn gweithio, yna yn amlwg beth fyddwn ni'n ceisio ei wneud yw targedu'r meysydd amddifadedd hynny fel blaenoriaeth, i wneud yn siŵr bod y bobl hynny, efallai, sydd ddim wedi bod mewn sefyllfa lle maen nhw wedi gallu gweld deintydd ers amser maith, a chael plant i mewn i'r sefyllfa yna lle maen nhw'n deall, mewn gwirionedd, bod angen i chi gymryd cyfrifoldeb dros eich iechyd geneuol eich hun. Felly, beth fyddwn ni'n ei wneud yw gweld sut mae'r cynllun arbrofol hwn yn gweithio yn y gogledd ac yn y cyfamser edrych i weld ble mae'r unedau deintyddol symudol eraill hyn yn bodoli. Felly, roedd gan Betsi fwy nag un ar gael. Felly, dim ond ceisio gweld ydym ni lle maen nhw'n bodoli, ac wedyn yn amlwg bydd angen ychydig o arian i gyflawni hyn, ac yn amlwg bydd angen gwario'r arian ar staff, ac mae angen i ni sicrhau bod y staff ar gael. Ond nid ydym ni'n sôn yn fan yma, fel y dywedais i, o reidrwydd am ddeintyddion, ond therapyddion deintyddol a thechnegwyr deintyddol, ac mae ynglŷn â'r union gyfuniad deintyddol hwnnw. Os oes cymhlethdod, yna rydych chi'n cyfeirio i fyny at y deintydd yn hytrach na bod y deintydd yn cyfeirio i lawr, felly mae'n troi'r model ar ei ben.
Diolch i'r Gweinidog.