6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Deintyddiaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 14 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 5:19, 14 Mawrth 2023

Mewn ymateb i FOI gen i ychydig o wythnosau yn ôl, mae yna 11,000 o bobl yn y rhanbarth rŷn ni'n dau yn ei gynrychioli ar restr aros i gofrestru gyda deintydd NHS. Llynedd, fe wnaeth y BBC arolwg ar draws y Deyrnas Gyfunol, yn cynnwys ein rhanbarth ni, a oedd yn dangos nad oedd capasiti gan unrhyw ddeintydd NHS i gymryd unrhyw gleifion ychwanegol. Felly, beth bynnag mae'r datganiad yma'n dweud am gytundebau, mae yna anniddigrwydd mawr yn bodoli. Mae fy neintydd i yn Llandeilo—a dwi wedi bod gyda deintydd NHS ers blynyddoedd lawer—wedi ddweud wrthyf i rhyw dair wythnos yn ôl ei fod e’n rhoi ei gytundeb yn ôl a bod e bellach yn mynd yn breifat. Mi wnes i edrych i weld os oes yna unrhyw ffordd allwn i fynd at ddeintydd NHS arall. Yn sir Gâr mae 3,500 ar y rhestr aros. Does yna ddim gobaith gen i. Felly, ydy'r Gweinidog yn cytuno â fi, i deuluoedd ar incwm isel, ydy mynd yn breifat yn 'acceptable alternative'?