Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 21 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:52, 21 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Roedd hi'n fraint gallu siarad yn gynharach ag aelodau o Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru, sydd yma yn y Senedd heddiw. Fe wnaethon nhw ddweud wrthyf fod eu profiad o ymchwiliad COVID y DU wedi dwysau eu penderfyniad bod angen ymchwiliad ei hun ar Gymru, fel yr Alban. Yr unig elfen benodol i Gymru bwrpasol a addawyd hyd yma yw modiwl 2B, sydd wedi'i drefnu i bara am bythefnos a hanner yr adeg hon y flwyddyn nesaf. Nawr, mae hynny'n rhy ychydig o amser, siawns, i ni ddysgu'r gwersi angenrheidiol i Gymru; mae'n rhy hwyr, a bydd rhy ychydig o leisiau yn cael eu clywed. I roi un neu ddwy o enghreifftiau: nid yw Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn gyfranogwr craidd. Mae yng Ngogledd Iwerddon. Rwy'n clywed nad oes unrhyw dystion arbenigol wedi cael eu penodi gan yr ymchwiliad sydd naill ai o Gymru neu â gwybodaeth benodol i Gymru. Ac mewn ymchwiliad pedair gwlad, heb os y risg fydd y byddwn ni'n cymharu ein hunain â chenhedloedd eraill y DU, er mai'r hyn y dylem ni fod yn ei wneud yw gwneud ein hunain yn destun cymhariaeth ryngwladol. Mae cymharu ein hunain â Boris Johnson a Matt Hancock yn gosod y bar yn isel iawn—a dweud y lleiaf.