Mawrth, 21 Mawrth 2023
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i'r Prif Weinidog sydd ar ein hagenda ni'n gyntaf y prynhawn yma, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhys ab Owen.
1. Pa asesiad mae’r Prif Weinidog wedi'i wneud o’r effaith ar Gymru yn dilyn oedi o ddwy flynedd ar ddarn llinell rheilffordd HS2 rhwng Birmingham a Crewe? OQ59295
2. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i ddenu gweithwyr iechyd proffesiynol i weithio yng nghanolbarth Cymru? OQ59322
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
3. Pa gamau brys mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi iechyd meddwl yng Ngorllewin De Cymru? OQ59311
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl Llywodraeth Cymru o ran sicrhau dyfodol hir dymor safle Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych? OQ59323
5. Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r goblygiadau i Gymru o gyllideb Llywodraeth y DU? OQ59282
6. Pa gamau mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i gynyddu'r nifer o dai newydd sy'n cael eu hadeiladu yng Nghymru? OQ59291
7. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynnal pyllau nofio? OQ59327
8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fynediad at ofal iechyd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ59325
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny, Lesley Griffiths.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd—na, gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, ar Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru). A dwi'n galw ar y...
Eitem 4 y prynhawn yma yw datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol—diweddariad ar y gronfa integreiddio rhanbarthol ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Galwaf ar...
Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Eitem 5 sydd nesaf: datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar genhadaeth ein cenedl. A galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles.
Eitem 6 yw'r datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar ddiogelwch adeiladau. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad hwn. Julie James.
Eitem 7 heddiw yw'r Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig, Rebecca Evans.
Mae eitem 8 wedi ei gohirio tan 28 Mawrth, felly symudwn ymlaen i eitem 9.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar.
Eitem 10 sydd nesaf. Y ddadl ar adroddiad blynyddol Estyn yw'r eitem yma. Dwi'n galw ar y Gweinidog addysg i wneud y cynnig. Jeremy Miles.
Dyma ni'n dod nawr at y cyfnod pleidleisio. Ac felly, oni bai bod tri Aelod yn gofyn i fi ganu'r gloch, byddwn ni'n symud at y bleidlais. Ac mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar y ddadl ar...
Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith Cymru'n colli cyllid yr UE ar Dde Clwyd?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia