Tai Newydd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 21 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:13, 21 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i sicrhau bod y lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad cyfalaf ar gael i gynorthwyo gwaith adeiladu tai. Mae'r diwydiant yn wynebu rhwystrau sylweddol o ran chwyddiant costau adeiladu, prinder llafur a bylchau yn y gadwyn gyflenwi fyd-eang. Cafodd y Gweinidog gyfarfod gydag adeiladwyr tai yng Nghymru yr wythnos diwethaf i drafod problemau sy'n wynebu'r sector.