1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 21 Mawrth 2023.
5. Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r goblygiadau i Gymru o gyllideb Llywodraeth y DU? OQ59282
Ni ddarparodd y gyllideb unrhyw gyllid ychwanegol ar gyfer iechyd, gwasanaethau cymdeithasol na chyflogau sector cyhoeddus, a chynigiodd y cymorth ychwanegol lleiaf posibl i bobl a busnesau. Roedd yn blaenoriaethu petrol a thyllau yn y ffordd dros bobl a chyflog. Mae'r degawd truenus o Lywodraeth Dorïaidd yn dod i ben fel y dechreuodd, gydag esgeulustod cynhwysfawr o ran anghenion Cymru.
Prif Weinidog, fel y gwyddoch, mae bob amser yn cymryd ychydig oriau, ychydig ddiwrnodau, i bethau dawelu yn sgil yr hud ynghylch unrhyw ddatganiad cyllideb wrth y blwch dogfennau, ond rydyn ni'n gwybod bellach bod y Gronfa Ariannol Ryngwladol wedi dweud y bydd gennym ni, yn y flwyddyn i ddod, y sefyllfa wanaf o holl wledydd y G7. Yn ôl y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, bydd gennym ni'r cwymp mwyaf i safon byw ers i gofnodion ddechrau, Andrew R.T. Davies—eich Llywodraeth chi. Mewn termau real, rydyn ni £900 miliwn i lawr ar yr hyn a nodwyd yn adolygiad gwariant 2021. Ac ar ben popeth, maen nhw wedi rhoi'r codiad enfawr i ni o £1 filiwn mewn gwariant cyfalaf. Roeddwn i'n sefyll wrth ochr maes AstroTurf gyda Sarah Murphy neithiwr lle roedd £0.75 miliwn wedi cael ei wario ar yr un maes hwnnw. Mae gennym ni £1 filiwn i'w gwario ledled Cymru gyfan. Diolch yn fawr iawn yn wir. Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno mai hwn yn gwbl wirioneddol, namyn dim, yw'r setliad cyllideb gwaethaf i Gymru yr ydym ni erioed wedi ei weld?
Un ffordd neu'r llall, rwyf wedi bod yn gysylltiedig â 23 mlynedd o gyllidebau Llywodraeth y DU, ac rwy'n cytuno â Huw Irranca-Davies—nid wyf i erioed wedi gweld cytundeb gwaeth i Gymru na'r hyn a welsom yr wythnos diwethaf. Mae'n gwbl annealladwy i mi y gallai Llywodraeth y DU, o edrych ar y pwysau a'r straen sydd ar y gwasanaeth iechyd ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, gredu bod hon yn gyllideb heb unrhyw gymorth ychwanegol i wasanaethau iechyd yn unman. Allwch chi ddychmygu? Dyma bymthegfed pen-blwydd a thrigain y gwasanaeth iechyd gwladol, ac er gwaethaf y pwysau—pwysau y mae gwleidyddion Ceidwadol yma yn y Senedd yn cyfeirio atyn nhw wythnos ar ôl wythnos—does dim byd o gwbl i helpu adeiladwaith y gwasanaeth iechyd, y gwasanaethau sy'n cael eu darparu, na chyflogau'r bobl hynny yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw.
Ac o ran yr £1 filiwn honno, mae'n ddilornus; mae'n hollol ddilornus. Dywedodd y Canghellor mai cyllideb ar gyfer twf oedd hon. Sut gallai fod wedi dod i'r casgliad y gellid diwallu holl anghenion cyfalaf Cymru—yr angen i foderneiddio ein system ysgolion, i fuddsoddi mewn offer yn y gwasanaeth iechyd, i ddarparu ar gyfer y gwasanaethau digidol y mae economi Cymru yn y dyfodol yn dibynnu arnyn nhw—o £1 filiwn? £1 filiwn yw'r ffigur; dyna'r arian ychwanegol sydd gennym ni yn ein cyllideb gyfalaf yn ail flwyddyn prosbectws y Canghellor. Mae'n syml, mae yno—gallwch edrych arno ym mhapurau'r gyllideb: mae gennym ni £1 filiwn yn fwy. Rydyn ni 8 y cant islaw lle yr oeddem ni mewn cyllidebau cyfalaf ddegawd yn ôl eisoes, a bydd hyn yn ein gwthio hyd yn oed ymhellach i lawr. Pan fo Huw Irranca-Davies yn dweud mai hon yw'r gyllideb waethaf i ni ei gweld erioed, o safbwynt dyfodol hirdymor economi Cymru, ni allai fod wedi ei gyfleu yn fwy plaen.
Rwy'n anghytuno â'r Prif Weinidog a Huw Irranca-Davies, gyda pharch. Roeddwn i'n teimlo bod cyllideb yr wythnos diwethaf yn un o optimistiaeth ac uchelgais, ac yn ganolog iddi roedd amddiffyn a chynorthwyo aelwydydd ledled Cymru, a'r DU gyfan yn wir. Croesawais yn arbennig, fel y gwnaeth fy arweinydd, ehangu 30 awr o ofal plant yn Lloegr i bob plentyn dan bump oed. Roeddwn i wedi gobeithio ein bod ni'n mynd i weld cyflwyno rhywbeth tebyg yma, ond o wrando ar yr ateb yn gynharach, mae'n amlwg nad ydym ni'n mynd i gael hynny. Rydyn ni hefyd yn croesawu talu costau gofal plant credyd cynhwysol ymlaen llaw, gan ymestyn y gwarant pris ynni ar £2,500 am dri mis, a rhewi treth tanwydd. Bydd y pwyntiau hyn yn sicrhau y bydd pob rhan o Gymru ar eu hennill. Prif Weinidog, a allwch chi amlinellu beth fydd eich Llywodraeth yn ei wneud i adeiladu ar y mentrau cadarnhaol iawn hyn? Rydyn ni wedi clywed yr ystrydebau; rydym ni eisiau gweld gweithredu go iawn.
Gadewch i mi ailadrodd rhywbeth a ddywedodd Huw Irranca-Davies yn ei gwestiynau atodol—bod dadansoddiad annibynnol o'r gyllideb yn dweud y bydd yn arwain at y cwymp mwyaf mewn safonau byw ers i gofnodion ddechrau. Ai dyna y mae'r Aelod yn ei olygu wrth ddweud uchelgais? Ai dyna'r uchelgais sydd gan y Blaid Geidwadol ar gyfer y wlad hon—ei bod wedi bod yn gyfrifol am y cwymp mwyaf i safonau byw ers i gofnodion ddechrau? Nid wyf i'n gweld hynny yn achos i fod yn optimistig.