Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 21 Mawrth 2023.
Llywydd, darperir cyllid ar gyfer pyllau nofio a chanolfannau hamdden i awdurdodau lleol drwy'r setliad llywodraeth leol. Er gwaethaf y sefyllfa ariannol heriol, rydym wedi cytuno ar fuddsoddiad ychwanegol sylweddol i lywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, a bydd hynny'n galluogi awdurdodau lleol i barhau i ddarparu'r gwasanaethau y mae eu hangen ar eu cymunedau.