Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 21 Mawrth 2023.
Diolch i Mabon ap Gwynfor am y cwestiwn. Dwi wedi clywed am y problemau maen nhw'n wynebu yn Harlech, ac, wrth gwrs, rŷm ni'n agored i unrhyw drafodaethau fydd pobl leol eisiau eu cael trwy'r cyngor lleol, ac hefyd trwy Sport Wales. I ddechrau, rhywbeth lleol yw e, a'r trafodaethau cyntaf, mae'n bwysig iddyn nhw eu cael gyda'r awdurdod lleol. Os oes rhywbeth allwn ni ei wneud, wrth gwrs, rŷm ni'n fodlon edrych i mewn i unrhyw gais mae pobl leol eisiau'i wneud.