Part of the debate – Senedd Cymru am 5:56 pm ar 21 Mawrth 2023.
Dyma ni'n dod nawr at y cyfnod pleidleisio. Ac felly, oni bai bod tri Aelod yn gofyn i fi ganu'r gloch, byddwn ni'n symud at y bleidlais. Ac mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar y ddadl ar adroddiad blynyddol llywydd Tribiwnlysoedd Cymru. A dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1 yn gyntaf—gwelliant 1, wedi'i gyflwyno gan Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Gwelliant 1 wedi ei wrthod, felly.