Part of the debate – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 21 Mawrth 2023.
Diolch, Llywydd. Trefnydd, byddwch yn ymwybodol o'r trenau metro newydd gwych sy'n cael eu cyflwyno gan Merseyrail ar draws rhan helaeth o ardal metro rhanbarth dinas Lerpwl. Byddwn yn ddiolchgar iawn am ddiweddariad gan Lywodraeth Cymru ynghylch y trafodaethau gyda Merseyrail ynghylch y defnydd posibl o'r unedau Stadler newydd sbon hyn ar reilffyrdd sy'n gwasanaethu dinasyddion y gogledd, yn enwedig y rheilffordd o Wrecsam i Bidston. Diolch.