Part of the debate – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 21 Mawrth 2023.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o wneud y datganiad hwn mewn cysylltiad â Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), a osodwyd gerbron y Senedd ddoe. Mae'r aer yr ydym ni'n ei anadlu, a'r synau sy'n cario arno, yn effeithio ar ein hiechyd a'n llesiant ni bob munud o bob dydd, hyd yn oed pan fyddwn ni'n cysgu. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi disgrifio llygredd aer fel y perygl unigol mwyaf i iechyd amgylcheddol drwy'r byd, a llygredd sŵn yn ail i hynny yng ngorllewin Ewrop. Mae ein rhaglen lywodraethu ni'n cydnabod pwysigrwydd mawr gwella amgylchedd yr aer drwy'r ymrwymiad a roddwyd i gyflwyno'r Bil hwn, a elwid gynt yn Fil aer glân.
Nod y Bil yw cyflwyno mesurau a fydd yn cyfrannu at welliannau o ran ansawdd aer a seinwedd yng Nghymru, gan leihau'r effeithiau ar iechyd y cyhoedd sy'n gysylltiedig ag amgylchedd aer gwael. Rwy'n gwybod bod hwn yn nod y byddwch chi i gyd yn ei gefnogi, yn dilyn trafodaethau defnyddiol gyda'r grŵp trawsbleidiol ym mis Tachwedd, a thrwy ymrwymiadau ar gyfer Deddf aer glân yn llawer o'ch maniffestos diweddar. Wrth ddatblygu'r Bil, fe wnaethom ni adeiladu ar gynigion yr ymgynghorwyd arnyn nhw drwy'r cynllun aer glân a Phapur Gwyn ar Fil aer glân. Rydyn ni wedi cynnwys cynigion sy'n gysylltiedig â sŵn a seinweddau hefyd, gan ddod yn rhan gyntaf o'r DU i gyflwyno deddfwriaeth o'r fath.
Mae angen ystyried y Bil mewn cyd-destun eang, nid ar wahân. Dyma un rhan o weithredu traws-sector sydd ar y gweill i fynd i'r afael â llygredd aer a sŵn. Mae'n adeiladu ar y ddeddfwriaeth bresennol a'r gyfres o gamau gweithredu i leihau llygredd aer a sŵn sydd yn ein cynllun aer glân i Gymru a chynllun sŵn a seinwedd. Nod y cynigion yn y Bil yw helpu i wella ansawdd ein hamgylchedd aer ledled Cymru, yn lleol ac yn rhanbarthol, a thrwy'r gymdeithas i gyd. Mae'r Bil yn cydnabod sŵn yn yr aer yn fath o lygredd aer hefyd, a sŵn yn fwy cyffredinol hefyd yn briodoledd allweddol i amgylchedd yr aer.
Rydym ni'n creu fframwaith ar gyfer Cymru gyfan i bennu nodau cenedlaethol ar gyfer ansawdd aer. Mae hyn yn cynnig mecanwaith cryf i gyflawni uchelgeisiau hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer aer glân a'r canlyniadau cysylltiedig o ran iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd, ochr yn ochr â chefnogi camau i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur. Mae'r fframwaith yn ategu safonau ansawdd aer deddfwriaethol cyfredol. Mae pwerau i weithredu rheoleiddio yn y Bil yn caniatáu i Weinidogion bennu nodau i Gymru, sy'n benodol, ar sail tystiolaeth, o ran llygryddion aer. Drwy'r fframwaith, fe allwn ni bennu nodau mwy caeth o ran llygryddion yn yr aer a chyflwyno nodau ar gyfer risgiau llygryddion sydd newydd eu nodi, ar sail tystiolaeth wrth i'r rhain ddod i'r amlwg, gan gynnwys canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar ansawdd aer. Mae bod â nodau penodedig mewn rheoliadau, yn hytrach na deddfwriaeth sylfaenol, yn golygu y bydd hi'n haws eu diweddaru nhw ac ymateb i newidiadau yn y dystiolaeth.
Mae ein panel cynghori annibynnol ni ar aer glân wedi penderfynu bod y corff mwyaf argyhoeddiadol o dystiolaeth sy'n cysylltu llygrydd aer ag effeithiau ar iechyd pobl yn cynnwys deunydd gronynnol 2.5, y cyfeirir ato fynychaf fel PM2.5. O ganlyniad i hynny, mae'r Bil yn cynnwys dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i bennu nod ar gyfer PM2.5 o fewn 36 mis i'r Cydsyniad Brenhinol. Drwy Gymru gyfan, fe fydd hi'n rhaid inni sicrhau bod camau parhaus yn cael eu cymryd i wella amgylchedd yr aer yma; felly, mae'r Bil yn diwygio Deddf yr Amgylchedd 1995, sy'n cynnwys y darpariaethau presennol yn ymwneud â'r strategaeth ansawdd aer genedlaethol. Fe fydd hyn yn sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn ymrwymedig i ymgynghori ar adolygiad neu addasiad o'r strategaeth bob pum mlynedd.
Fel soniwyd, Cymru yw'r rhan gyntaf o'r DU i gynnwys seinweddau mewn deddfwriaeth. Mae'r Bil yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi strategaeth genedlaethol ar gyfer seinweddau bob pum mlynedd. Mae gofynion a llinell amser y ddwy ddogfen strategol hyn yn cyd-fynd â'i gilydd, er mwyn caniatáu i ni eu cyhoeddi nhw ar wahân neu ar y cyd, pryd bynnag y bo hynny'n fuddiol. Mae'r cynigion newydd ar gyfer y dogfennau strategol hyn yn sicrhau hefyd fod y cyhoedd, rhanddeiliaid a phartneriaid cyflenwi â rhan yn y camau gweithredu yn y dyfodol i wella'r ansawdd aer a seinweddau sydd gennym ni. Ar lefel leol a rhanbarthol, fe fyddwn ni'n sicrhau bod y drefn leol i reoli ansawdd aer yn gweithredu yn rhagweithiol, ac yn ataliol, a chyda mwy o ganolbwyntio ar iechyd y cyhoedd.
Mae'r Bil yn cyflwyno gofyniad mwy pendant ar yr awdurdodau lleol i gynnal adolygiad blynyddol o ansawdd aer a rhwymedigaeth i fod â chynllun gweithredu ansawdd aer, sy'n cynnwys dyddiad a ragwelir ar gyfer cydymffurfio, y bydd yn rhaid cytuno arno gyda Gweinidogion Cymru. Bydd y Bil yn diwygio Deddf Aer Glân 1993 hefyd ar gyfer galluogi'r awdurdodau lleol i reoli a gorfodi allyriadau mwg yn well mewn ardaloedd rheoli mwg. Mae rheoli mwg yn cwmpasu rheolaeth ar lygredd yn sgil llosgi tanwydd solet o simneiau mewn cartrefi a busnesau o fewn ardaloedd rheoli mwg. Ar hyn o bryd, mae troseddau yn anodd eu gweinyddu ac yn anaml iawn y bydden nhw'n arwain at erlyniadau. Mae'r Bil yn cyflwyno cosbau ariannol sifil yn lle'r cosbau troseddol presennol, y gellir eu sefydlu gan awdurdodau lleol lle mae mwg yn cael ei ollwng o simnai o fewn ardal rheoli mwg.
Mae'r Bil yn dileu amddiffynfeydd statudol i helpu gorfodi'r drefn newydd o gosbau sifil. Os yw defnyddiwr yn defnyddio teclyn a gymeradwyir gyda thanwydd awdurdodedig, ni ddylai fod unrhyw allyriadau o fwg gweladwy. Trwy ei gwneud hi'n haws i awdurdodau lleol orfodi'r ardaloedd rheoli mwg, rydym ni'n rhagweld y bydd troseddu yn prinhau, gyda swyddogion yn annog newid ymddygiad, ac, os yw hynny'n briodol, yn pennu cosbau ariannol. Fe fyddwn ni'n cyhoeddi canllawiau statudol i gefnogi'r broses o weithredu. Mae gwelliannau i'r drefn rheoli mwg yn cyfrannu at ein polisi ehangach ni i leihau allyriadau oherwydd llosgi domestig, sy'n cael ei drin y tu allan i'r broses gyda'r Bil hwn, gan ddefnyddio ysgogiadau sy'n bodoli eisoes.