Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 21 Mawrth 2023.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am y datganiad, Weinidog. Yn eich datganiad chi, rŷch chi wedi cyfeirio yn helaeth at rôl ganolog diwygiadau yn y sector ôl-16 i’r weledigaeth genedlaethol ar gyfer addysg, ac roeddem ni ym Mhlaid Cymru yn falch bod y camau i sefydlu’r comisiwn addysg drydyddol ac ymchwil yn rhan o’n cytundeb cydweithio ni â’r Llywodraeth. Fe ofynnais ichi yr wythnos diwethaf i egluro'r oedi o ran penodi prif weithredwr i'r comisiwn newydd, gan fod cadeirydd a dirprwy gadeirydd wedi bod yn eu lle ers rhai misoedd nawr, ond ces i ddim ateb clir, ac roedd dyddiad cau ar gyfer y swydd honno nôl ym mis Tachwedd. Yn sgil pwysigrwydd mawr y rôl wrth siapio ffurf a gweledigaeth y comisiwn newydd, a fydd—yn eich geiriau chi—yn llywio yr ymagwedd system gyfan rŷch chi am ei gweld at addysg drydyddol, gan helpu i leihau’r anghydraddoldebau addysgol ac ehangu cyfleoedd a chodi safonau, wnewch chi gadarnhau pryd y cawn ni gyhoeddiad am benodiad y prif weithredwr newydd, neu egluro pam nad yw hynny wedi bod yn bosibl eto?