Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 21 Mawrth 2023.
Diolchaf i'r Aelod am ei chwestiynau. Ni wnes i glywed ei chwestiwn olaf yn ei gyfanrwydd, ond rwy'n credu fy mod ei wedi deall ei hanfod, felly byddaf yn gwneud fy ngorau i ymateb iddo. Diolch, yn gyntaf, am fy ngwahodd i fynd, gyda hi, i ysgol Perthcelyn. Roeddwn i'n credu ei fod yn ymweliad calonogol iawn, ac o gyfarfod y pennaeth a'r disgyblion a rhai o'r staff yno, gwelais ysgol a oedd wedi ymrwymo i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob dysgwr unigol, a dyna rydym ni ei eisiau i'n holl blant yng Nghymru.
Mae hi'n iawn, wrth gwrs, i ddweud bod yr ysgol wedi elwa o fuddsoddiad cyfalaf yn yr hyn sydd eisoes yn ysgol sydd wedi'i dylunio'n hyfryd iawn, os caf i ddweud, a chyda phwyslais ar gynaliadwyedd. Pan oeddwn i yn yr ysgol, roeddwn i’n gallu cyhoeddi pecyn o £60 miliwn—£50 miliwn i ysgolion, £10 miliwn i golegau—i wella cynaliadwyedd, effeithlonrwydd ynni a'u cyfraniad at yr uchelgeisiau sero-net sydd gennym ni. Maen nhw’n hanfodol i'n cenhadaeth genedlaethol.
Bydd yn gwybod y bydd pob buddsoddiad newydd mewn ysgolion sy'n cael ei ariannu drwy'r rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy o 2022 ymlaen yn ysgol sero-net, sy'n bwysig iawn. Rwy'n gobeithio gallu dweud ychydig yn fwy yn ystod y dyddiau nesaf am ein her ysgolion cynaliadwy, sef y cyfle, bydd yn cofio, i awdurdodau wneud cais am gyllid i ysgolion gael eu dylunio a'u hadeiladu gan ddefnyddio deunyddiau naturiol, a'u dynlunio—yn bwysig, o safbwynt ei chwestiwn—gyda dysgwyr yn ganolog, a bod swyddogaeth y dysgwyr o ran helpu i ddylunio'r ysgol yn gyfle cwricwlwm. Felly, ceir ffordd gyfannol y gall ymrwymiad i gynaliadwyedd fod yn ganolog i'n cwricwlwm, a bydd unrhyw un ohonom ni sy'n ymweld ag ysgolion yn ein hetholaethau yn gwybod pa mor angerddol yw pobl ifanc ynghylch materion yn ymwneud â chynaliadwyedd, mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, ac mae hynny yn amlygu ei hun mewn amrywiaeth o ffyrdd.
Gofynnodd am yr ymrwymiad i ddeilliannau cyfartal, a hoffwn bwysleisio pa mor bwysig yw hi ein bod ni’n ymdrechu'n galetach, ar draws ein system addysg, i wneud yn siŵr bod taith pob dysgwr yn un o degwch yn ogystal â rhagoriaeth. Fe wnes i benodi yn ddiweddar, fel yr wyf i'n credu y bydd hi'n gwybod, grŵp o hyrwyddwyr cyrhaeddiad sydd wedi bod yn gweithio gydag ysgolion ledled Cymru i rannu arferion gorau ac i ddysgu oddi wrth ei gilydd ynghylch strategaethau i fynd i'r afael yn effeithiol ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, ac rwy'n llawn cyffro am botensial hyn i'n helpu ni i ledaenu arferion gorau drwy ein system addysg gyfan. Nid oes pennaeth yng Nghymru nad yw wedi ymrwymo i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob un dysgwr yn ei ofal, ond mae rhai yn cael hynny'n anoddach nag eraill am wahanol resymau, ac yn aml maen nhw'n resymau dealladwy iawn. Ein cyfrifoldeb ni yw gwneud yn siŵr ein bod ni’n eu cynorthwyo nhw i gael y mynediad gorau at yr adnoddau a'r canllawiau sydd eu hangen arnyn nhw i ddarparu hynny i'w pobl ifanc.
Rwy’n meddwl bod ei chwestiwn olaf yn ymwneud â buddsoddi mewn addysg cyfrwng Cymraeg, a bydd yn gwybod, yn rhan o'n cronfeydd cyfalaf, ein bod ni'n amlwg wedi buddsoddi yn sylweddol iawn yng ngwead ein hystâd cyfrwng Cymraeg, ond ceir cyfle, rwy’n meddwl, yn rhannol drwy'r Bil yr ydym ni'n gobeithio ei gyflwyno, gan gydweithio gyda Phlaid Cymru, i wneud yn siŵr bod profiad pob un person ifanc o addysg yng Nghymru, pa un a yw'n dewis ysgol Gymraeg, ysgol ddwyieithog, neu ysgol Saesneg, yn un y gallwn ni, dros amser, fod yn hyderus sy’n rhoi lefel o hyder i bob person ifanc o ran siarad Cymraeg, fel bod ein system, beth bynnag fo cyfrwng yr ysgol, yn unedig o ran y nod hwnnw o arfogi ein pobl ifanc â gallu yn un o'n hieithoedd cenedlaethol.