Part of the debate – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 21 Mawrth 2023.
Diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw—ein cenhadaeth genedlaethol. Fel rydym i'n gwybod, lansiodd Llywodraeth Cymru eu cenhadaeth genedlaethol addysg yn ôl yn 2017, a oedd â dyheadau mawr i bobl Cymru. Nod y genhadaeth genedlaethol oedd codi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a sicrhau system addysg sy'n destun balchder a hyder cenedlaethol. Ar yr ochrau hyn i'r meinciau, rydym ni’n rhannu'r dyhead hwn yn llwyr ac eisiau gweld y deilliannau addysgol gorau i bobl Cymru, ac, fel rydych chi'n ei ddweud yn eich datganiad, Gweinidog, mae'n rhaid i ni sicrhau safonau a dyheadau uchel i bawb. Yn ogystal â hyn, rydym ni’n cefnogi'r angen i sicrhau deilliannau teg i bob plentyn a pherson ifanc ym maes addysg, sydd hefyd yn cael ei godi yn eich datganiad heddiw.
Y pwynt cyntaf yr hoffwn ei godi heddiw, Gweinidog, yw ein bod ni, pan fyddwn ni’n edrych yn agosach ar safonau addysgol yng Nghymru, yn parhau i fod y tu ôl i'n cymheiriaid yn Lloegr. Ers cyhoeddi'r genhadaeth genedlaethol hon, rydym ni wedi parhau i weld y bwlch cyrhaeddiad yn ehangu, tra bod cynghreiriau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr yn dangos nad yw safonau addysgol yng Nghymru yn codi'n ddigon cyflym. Felly, Gweinidog, pa sicrwydd allwch chi ei roi, wrth symud ymlaen, y byddwn ni’n gweld canlyniadau mwy cadarnhaol o’ch cenhadaeth genedlaethol, yn arwain at well deilliannau addysg i bobl Cymru?
Yn ail, Gweinidog, un pryder ar ochrau hyn y meinciau fu cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru newydd. Ar yr ochrau hyn i'r meinciau, rydym ni’n credu bod y cwricwlwm newydd hwn wedi cael ei ruthro allan yn rhy gyflym ac y dylid fod wedi ei ohirio. Yng ngoleuni hyn, pa asesiad ydych chi wedi ei wneud o gyflwyniad y cwricwlwm hwn, ac a oedd unrhyw wersi i'w dysgu?
Yn drydydd, Gweinidog, methiant allweddol yr ydym ni’n ei weld ar yr ochrau hyn i'r meinciau yw ymgais Llywodraeth Cymru i gyflawni diwygiadau o ran anghenion dysgu ychwanegol. Byddai llawer yn dadlau nad yw'r diwygiadau hyn wedi bod yn llwyddiannus. Yn anffodus, mae llawer o blant ledled Cymru yn cael eu nodi fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn hwyrach nag y dylen nhw. Mae hyn yn arwain at roi plant ar restrau aros hir cyn cael mynediad at ysgolion sy'n darparu ar gyfer anghenion addysgol arbennig ac anabledd, dim ond i'r un ysgolion hynny ddatgan wedyn nad yw'r adnoddau ariannu sy'n angenrheidiol ganddyn nhw i ddarparu hyfforddiant digonol i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Felly, Gweinidog, wrth symud ymlaen, pa sicrwydd allwch chi ei roi y bydd y rhaglen cenhadaeth genedlaethol hon yn sicrhau bod y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, ynghyd â'u teuluoedd, yn cael y cymorth a'r gefnogaeth y maen nhw’n eu haeddu?
Mae'r pwynt olaf yr hoffwn i ei godi heddiw, Gweinidog, yn ymwneud ag athrawon. Yn eich datganiad, rydych chi’n dweud eich bod chi’n siarad ag athrawon a staff cymorth, ac mae hynny bob amser yn rhywbeth i'w groesawu. Ond un o'm pryderon allweddol pan fyddaf i'n siarad ag athrawon a'r rhai mewn sectorau addysg eraill yw'r prinder athrawon mewn pynciau STEM allweddol, fel cemeg a ffiseg, yr wyf i wedi ei godi o'r blaen yn y Siambr hon. Fel yr wyf i'n siŵr y byddwch chi’n cytuno â mi, Gweinidog, mae pynciau STEM yn hanfodol bwysig ar gyfer ein gweithlu yn y dyfodol a ffyniant ein gwlad, felly, pa asesiad ydych chi wedi ei wneud o'r prinder athrawon gwyddoniaeth mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a Chymraeg, a pha gamau wnewch chi eu cymryd i'w ddatrys? Diolch.