9. Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru 2021-22

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 21 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 5:02, 21 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Yn sicr, mae'n glod iddo ef a'i dîm eu bod nhw wedi cyflawni eu cyfrifoldebau gyda'r proffesiynoldeb a'r diwydrwydd mwyaf drwy gydol heriau digynsail y pandemig. Rydym wrth gwrs yn dymuno'n dda iawn i'w olynydd, Syr Gary Hickinbottom, a fydd yn ymgymryd â'r swydd ym mis Ebrill.

Ni wnaf i ailadrodd rhai o'r cwestiynau a ofynnwyd, ond rwy'n credu, o ran yr amserlenni, mae'n bwysig. Rydych chi wedi amlinellu heddiw yr ymrwymiad hwnnw o ran Papur Gwyn yn y misoedd nesaf, ond pe bai amserlen fwy penodol, rwy'n credu y byddai hynny'n cael ei groesawu.