Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 21 Mawrth 2023.
Rwy'n gwrando ar eich dadleuon ar y mater hwn o ddiwygio, ac ni fydd yn syndod i chi fy mod i'n cytuno'n fawr iawn â chi. Mae o ddiddordeb i mi felly bod y Llywodraeth yn gofyn i ni bleidleisio yn erbyn gwelliant y Ceidwadwyr ar y mater hwn yn y bleidlais y prynhawn yma, ac mae'n ymddangos i mi bod yr hyn y mae gwelliant y Ceidwadwyr yn ei wneud yn debyg iawn i'r hyn yr ydych chi newydd ei ddisgrifio, felly byddai gen i ddiddordeb clywed pam na fyddech chi eisiau cefnogi'r gwelliant hwnnw.