9. Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru 2021-22

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 21 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 4:53, 21 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Wrth holi'r Cwnsler Cyffredinol yma ym mis Medi 2021, gofynnais iddo am ei ymateb cychwynnol i gynigion ym mhapur ymgynghori Comisiwn y Gyfraith ar dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru, yn benodol, i ddiwygio uned Tribiwnlysoedd Cymru, y rhan o Lywodraeth Cymru sy'n gweinyddu'r rhan fwyaf o dribiwnlysoedd datganoledig ar hyn o bryd, i fod yn adran anweinidogol.

Holais y Cwnsler Cyffredinol yma ym mis Gorffennaf y llynedd ar adroddiad terfynol Comisiwn y Gyfraith ym mis Rhagfyr 2021 ar dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru, a oedd yn cynnwys,

'rydym wedi ein hargyhoeddi mai model yr adran anweinidogol yw’r un y dylid ei fabwysiadu ar gyfer gweinyddu’r system tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru yn y dyfodol', ac a ddywedodd:

'Dylai’r gwasanaeth tribiwnlysoedd fod yn annibynnol yn weithredol ar Lywodraeth Cymru'.

Nodais hefyd, er nad oes athrawiaeth absoliwt o wahanu pwerau yn y DU, mae'r cysyniad o wahanu pwerau rhwng y ddeddfwrfa—h.y. y Senedd—Gweithrediaeth—h.y. Llywodraeth Cymru—a'r farnwriaeth, wedi bod yn berthnasol ers tro yn y DU ac ar draws y DU i atal canolbwyntio grym trwy ddarparu mesurau cadw cydbwysedd. A gofynnais i'r Cwnsler Cyffredinol:

'Pa gasgliadau y daethoch iddynt erbyn hyn ar ôl ystyried canfyddiadau Comisiwn y Gyfraith mewn perthynas â'r pwynt penodol hwn?'

Yn ei ateb, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol,

'mae'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu codi yn gwbl sylfaenol, sef bod yn rhaid i'r rhan honno o'r system gyfiawnder fod yn annibynnol ar y Llywodraeth...mae'n rhaid iddo fod yn fodel sy'n sicrhau gweithrediad annibynnol uned Tribiwnlysoedd Cymru'.

Gwelir hyn ar waith yn Yr Alban, lle mae barnwr yn cadeirio bwrdd yr adran anweinidogol yno.

Yn yr adroddiad yr ydym ni'n ei drafod heddiw, mae llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, Syr Wyn Williams, yn tynnu sylw at ei gefnogaeth i naw argymhelliad mawr a wnaed gan y comisiwn, gan gynnwys y dylai gwasanaeth tribiwnlysoedd i Gymru gael ei greu fel adran anweinidogol, ac y dylai Gweinidogion Cymru ac eraill sy'n gyfrifol am weinyddu cyfiawnder yng Nghymru fod yn destun dyletswydd statudol i gynnal annibyniaeth tribiwnlysoedd Cymru. Ychwanegodd, fodd bynnag, er bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhoi llawer mwy o annibyniaeth i uned Tribiwnlysoedd Cymru, nid yw wedi ymrwymo i greu adran anweinidogol i weinyddu tribiwnlysoedd Cymru. Fel y dywedodd wrth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, mae'n teimlo bod dinasyddion yn mynd yn nerfus pan fo'n ymddangos bod gormod o gysylltiad rhwng y Llywodraeth a'r farnwriaeth, felly bydd angen gwneud uned Tribiwnlysoedd Cymru yn annibynnol. Rwy'n cynnig gwelliant 1 yn unol â hynny, gan alw am fwy o annibyniaeth i uned Tribiwnlysoedd Cymru trwy greu adran anweinidogol i weinyddu uned Tribiwnlysoedd Cymru.

Hoffwn gloi trwy ddyfynnu datganiad Syr Wyn nad yw rôl Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru  

'yn un fewnblyg ac ni ddylai fod...rwyf wedi cael budd mawr o barodrwydd cydweithwyr yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban i rannu agweddau ar eu ffyrdd o weithio gyda mi' a thrwy ddiolch iddo—i orffen—am ei chwe blynedd yn y swydd hon, a dymuno pob llwyddiant iddo yn y dyfodol yn ei fywyd wrth iddo symud ymlaen. Diolch.