Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 22 Mawrth 2023.
Croesawaf y camau sy’n cael eu cymryd ledled Cymru i annog unigolion i ymgeisio am swyddi etholedig. Mae amrywiaeth yn sicrhau penderfyniadau gwell a mwy cynhwysol. Cyn etholiadau lleol 2027, mae'r gwaith i annog amrywiaeth yn cynnwys ymrwymiad y rhaglen lywodraethu i ymestyn y gronfa mynediad i swyddi etholedig.