Mercher, 22 Mawrth 2023
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da, a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf y...
1. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r ymdrechion llwyddiannus sy'n mynd ymlaen yn Arfon a mannau eraill i ddenu mwy o ferched i fod yn gynghorwyr sir? OQ59302
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i roi mynediad i amlosgfeydd lleol? OQ59305
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands.
3. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog pobl dalentog i weithio mewn llywodraeth leol o ystyried effaith yr argyfwng costau byw? OQ59301
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chydweithwyr llywodraeth leol i symud cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus oddi wrth fuddsoddiadau tanwydd ffosil? OQ59293
5. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o waddol ariannol y fenter cyllid preifat yng Nghymru? OQ59320
6. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi am gymorth arainnol ychwanegol i Gyngor Sir Ynys Môn yn sgil cyhoeddiad y 2 Sisters Food Group am gau ei safle yn...
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am godiadau treth cyngor yng ngogledd Cymru? OQ59306
8. Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i ymyriadau cyllido sy'n galluogi cynghorau Cymru i fynd i'r afael ag effaith tlodi wrth baratoi cyllideb y Llywodraeth ar gyfer 2023-24? OQ59287
11. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen buddsoddi i arbed Llywodraeth Cymru? OQ59284
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, a'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Janet Finch-Saunders.
1. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Gweinidog yr Economi ynglŷn â bargen twf y gogledd? OQ59294
2. A wnaiff y Gweinidog amlinellu strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu mannau gwyrdd cymunedol? OQ59280
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
3. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella lles anifeiliaid domestig yng Nghwm Cynon? OQ59286
4. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddiogelu gwenyn? OQ59303
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar yr ymgynghoriad sydd i ddod ar ddyfodol rasio milgwn yng Nghymru? OQ59319
6. Pa drafodaethau mae’r Gweinidog wedi'u cynnal gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am uned mamau a babanod i’r gogledd a fyddai'n gwasanaethu pobl Arfon? OQ59297
7. Pa asesiad mae’r Gweinidog wedi gwneud o effeithiolrwydd gwariant y gronfa datblygu gwledig ar y prosiect Down to Earth? OQ59296
8. A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i reoleiddio bridio cathod? OQ59300
9. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar ymdrechion y Llywodraeth i adfywio economi cefn gwlad? OQ59312
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau amserol. Un cwestiwn sydd y prynhawn yma, i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Mae'r cwestiwn i'w ofyn gan Jack Sargeant.
1. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru a gaiff penderfyniad Llywodraeth y DU i gategoreiddio Northern Powerhouse Rail fel prosiect Cymru a Lloegr? TQ746
Eitem 4 yw'r datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad cyntaf heddiw gan Luke Fletcher.
Eitem 5 sydd nesaf, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21: mesuryddion rhagdalu a gwasanaethau cyngor ynni. Galwaf ar Jack Sargeant i wneud y cynnig.
Eitem 6 sydd nesaf, a dadl y Ceidwadwyr Cymreig yw honno. Dwi'n galw ar Sam Rowlands i wneud y cynnig. Sam Rowlands.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.
Dyma ni'n dod at y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod eisiau i fi ganu'r gloch, fe fyddaf i yn symud yn syth i'r bleidlais gyntaf. Does yna neb yn gofyn am hynny, felly fe fydd y bleidlais...
Ac felly'r eitem honno fydd y ddadl fer, ac mae'r ddadl fer y prynhawn yma ar ddiogelwch tân mewn fflatiau uchel, amserlen glir ar gyfer unioni trigolion. Dwi'n galw ar Rhys ab Owen i...
Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod ganddi'r ystadegau sydd eu hangen arni i lywio polisi?
Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i hybu lles anifeiliaid yn Nwyrain De Cymru?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia