Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 22 Mawrth 2023.
Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Weinidog. Fel rwy’n siŵr y byddwch yn ei gofio, yn gynharach y mis hwn, ysgrifennais lythyr atoch ynghylch eithriadau i’r dreth gyngor, yn benodol mewn perthynas â’r rheoliadau 182 diwrnod ar gyfer busnesau llety hunanddarpar yng Nghymru. Yn y llythyr hwn, gofynnais am yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â pha eithriadau a wneir mewn perthynas â’r rheoliadau hynny, ac roeddwn yn falch o gael eich ymateb yn dilyn y memorandwm esboniadol a gyhoeddwyd ar 6 Mawrth. Weinidog, fe fyddwch yn gwybod y bydd y rheoliadau newydd hyn, gydag eithriadau mor gyfyngedig, yn golygu y bydd llawer o fusnesau hirsefydlog dilys yng Nghymru bellach yn talu miloedd o bunnoedd mewn trethi nad oeddent yn arfer gorfod eu talu, neu na fu'n rhaid iddynt gynllunio ar eu cyfer, gyda rhywfaint o hynny'n ôl-weithredol, gan wneud rhai o'r busnesau hyn yn anhyfyw. Felly, Weinidog, beth yw eich asesiad o hyn?