Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 22 Mawrth 2023.
Weinidog, fel y gwyddoch, mae'r defnydd o fentrau cyllid preifat wedi bod yn ddadleuol a dweud y lleiaf. Fe fyddwch yn gwybod bod llawer o gynghorau wedi'u dal yng ngafael cynlluniau mentrau cyllid preifat gwenwynig, ac fel y gwyddom, Weinidog, yn ôl y cyfrif diwethaf, credaf fod 23 o brosiectau menter cyllid preifat gyda gwerth cyfalaf o £701 miliwn wedi'u noddi gan Lywodraeth Cymru, a bod pum prosiect wedi'u noddi gan Lywodraeth y DU. Weinidog, bydd yna adegau pan fydd mynediad at gyfalaf preifat yn hanfodol. Fodd bynnag, yn aml, gwerth gwael am arian a gynigir ganddynt ac maent yn creu baich o ddyled i sawl cenhedlaeth i ddod. Roeddwn i'n meddwl tybed pa wersi mae Llywodraeth Cymru wedi'u dysgu o brofiad o fentrau cyllid preifat. Pa waith mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu tryloywder a sicrhau bod trethdalwyr yn cael y gwerth gorau am arian wrth ymgysylltu â'r sector preifat?