Staff Llywodraeth Leol

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 22 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 1:50, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Mae awdurdodau lleol yn darparu eu gwasanaethau hanfodol drwy eu staff dawnus. Er bod pob awdurdod lleol yn gyfrifol am eu recriwtio eu hunain, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cymorth drwy raglenni arweinyddiaeth Academi Wales gan gynnwys rhaglen graddedigion gwasanaeth cyhoeddus Cymru, cyfrifon dysgu personol a’n rhaglen brentisiaethau ehangach.