Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 22 Mawrth 2023.
Diolch, Weinidog. Roeddwn yn falch iawn o weld y byddai'r gyllideb ar gyfer y gronfa cymorth dewisol yn cynyddu bron £19 miliwn, ac y byddai gwerth arian parod y taliadau'n codi 11 y cant yn unol â chwyddiant. Mae'r newyddion wedi cael croeso cynnes iawn gan Sefydliad Bevan, er enghraifft, gan ein bod yn gwybod bod y gronfa cymorth dewisol yn cael ei defnyddio gan gynghorau fel achubiaeth i deuluoedd sy'n wynebu argyfwng. Gyda'n prif awdurdodau ar y rheng flaen yn ystod yr argyfwng costau byw, sut arall mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynghorau fel eu bod hwythau yn eu tro yn gallu cefnogi eu cymunedau lleol?