Buddsoddiadau Tanwydd Ffosil

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 22 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 1:54, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Rydym yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr. Bu partneriaeth pensiwn Cymru yn trafod datgarboneiddio pensiynau llywodraeth leol yng Nghyngor Partneriaeth Cymru ym mis Tachwedd. Yn dilyn eich cyfarfod gyda’r Prif Weinidog ym mis Ionawr, mae CLlLC wedi cytuno i gynnal digwyddiad ym mis Mai gydag arweinwyr a darparwyr pensiynau i drafod y camau nesaf.