Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 22 Mawrth 2023.
Byddai’r rhain yn faterion i aelodau’r bwrdd pensiynau a’r gronfa bensiwn eu hystyried mewn gwirionedd, o ran y buddsoddiadau y mae’r gronfa’n eu gwneud. Ond wedi dweud hynny, credaf y gall buddsoddiadau pensiwn gwyrdd fod yn fuddsoddiadau da iawn o ystyried y ffordd y mae’r farchnad ynni bresennol yn symud tuag at ffordd wyrddach a mwy cynaliadwy o ddarparu ynni ar gyfer y dyfodol. Gwn y bydd pob un o’r pethau hyn yn bethau y mae rheolwyr cynlluniau pensiwn ac yn y blaen yn eu trafod gyda’r bwrdd pensiynau. Nid penderfyniadau i Lywodraeth Cymru yw'r penderfyniadau buddsoddi penodol hynny, ond penderfyniadau i’r byrddau pensiynau eu hunain.