Y Fenter Cyllid Preifat

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 22 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 1:59, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae hynny'n ddefnyddiol iawn. Mae dau o'r achosion rydych wedi'u nodi ym mwrdeistref Caerffili. Mae un yn gyfan gwbl o fewn fy etholaeth i, Ysgol Lewis Pengam, ac mae gan y llall gampws yn fy etholaeth i, sef Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, ac mae naw mlynedd ar ôl ar y contractau mentrau cyllid preifat 30 mlynedd gwreiddiol. Nid wyf yn credu y byddem wedi cael yr ysgolion hebddynt, ac maent yn ysgolion penigamp, ond mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn credu y gellid sicrhau manteision allweddol pe bai’r contract, sy’n ymwneud â darparu gwaith cynnal a chadw adeiladau, glanhau, arlwyo a gwasanaethau cynnal a chadw tiroedd yn cael ei derfynu'n gynnar, a disgwylir iddo gael ei drafod yng nghyfarfod llawn y cyngor ar 19 Ebrill. Felly, cyn hynny, roeddwn am ofyn i'r Gweinidog: pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, pe baent yn penderfynu terfynu'r contract menter cyllid preifat hwnnw'n gynnar?