Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 22 Mawrth 2023.
Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda Gweinidog yr Economi am amrywiaeth o faterion yn ymwneud â gogledd Cymru, gan gynnwys bargen twf y gogledd. Yn is-bwyllgor diwethaf y Cabinet ar gyfer gogledd Cymru, rhoddodd Gweinidog yr Economi ddiweddariad economaidd ar gyfer y rhanbarth, gan gynnwys cynnydd y fargen twf.