Rasio Milgwn

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 22 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:45, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Wel, fel rwy'n dweud, nid wyf am achub y blaen ar yr ymgynghoriad y byddaf yn ei lansio yn ddiweddarach eleni. Rwyf wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o Fwrdd Milgwn Prydain. Rwyf wedi cyfarfod â sefydliadau lles eraill, ac rwyf wedi cyfarfod â pherchennog stadiwm Valley i drafod materion lles a chynlluniau ar gyfer safle Valley. Fel y dywedwch, nid yw'r safle ar hyn o bryd yn cyrraedd safonau Bwrdd Milgwn Prydain.