Anifeiliaid Domestig

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 22 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:37, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n ymwybodol, yn amlwg, fod cyfraith Lucy yn cyrraedd pen-blwydd pwysig fis nesaf, ac roedd Lucy, y tarfgi yr enwyd y ddeddfwriaeth ar ei hôl, yn dod o fferm yma yng Nghymru. Ond nid yw'r ddeddfwriaeth honno ond yn berthnasol i Loegr. Fel y gwyddoch, mae ein deddfwriaeth ni, sef Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021, yn mynd gam ymhellach, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n dangos ac yn adlewyrchu fy ymrwymiad cryf i les cŵn—pob anifail yma yng Nghymru mewn gwirionedd—ac mae fy swyddogion yn monitro'r rheoliadau hynny'n ofalus iawn. 

Rwy'n derbyn, wrth gwrs, nad yw'r rheoliadau hynny'n mynd i'r afael â'r holl broblemau sydd gennym yn gysylltiedig â masnachu cŵn bach, a dyna pam ein bod yn cyflwyno mesurau pellach. Wrth inni edrych ar y ddeddfwriaeth honno, ac wrth inni ei monitro, rydym yn edrych ar fesurau eraill i'w cyflwyno er mwyn sicrhau bod gennym safonau lles uchel ar gyfer ein bridwyr cŵn yma yng Nghymru.