Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 22 Mawrth 2023.
Bendigedig. Yn ddiweddar, cyfarfu fy nghyd-Aelod, Huw Irranca-Davies, yr Aelod o'r Senedd dros Ogwr, a minnau â Cats Protection yn eu canolfan fabwysiadu ym Mhen-y-bont ar Ogwr i drafod y gwaith a wnânt ar wella lles cathod yng Nghymru a ledled y DU. Yn ôl adroddiad diweddaraf Cats Protection sef 'Cats and Their Stats', mae perchnogaeth cathod pedigri yng Nghymru ar gynnydd, gyda 25 y cant o'r cathod a gafodd eu prynu y llynedd yn fridiau pedigri. Er y gall llawer o fridiau cathod pedigri fyw bywydau iach, mae na rai bridiau eithafol gyda diffygion geni genetig sy'n gallu arwain at fywyd poenus iawn i'r gath. Er enghraifft, bydd cathod sydd â wynebau gwastad iawn, fel cathod Persia, yn cael trafferth gyda phroblemau anadlu drwy gydol eu bywydau, neu gathod Scottish Fold, y mae eu gwerthiant bellach wedi'i wahardd yn yr Alban, sy'n dioddef o ddiffygion cartilag difrifol. Yn wahanol i gŵn, nid yw bridio cathod yn cael ei reoleiddio ar hyn o bryd, felly a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad yn y cyfamser i reoleiddio cathod yn yr un modd ag y mae'n rheoleiddio cŵn yng Nghymru? Diolch.