Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 22 Mawrth 2023.
Fy mhwynt i chi, Weinidog, yw: gan droi'n ôl at drac rasio Valley, y mae Hefin wedi tynnu sylw ato, rwy'n deall—ac rwy'n gobeithio y byddech chi'n cytuno â hyn—pe bai rasio milgwn yn cael ei wahardd ar drac rasio Valley, ni fyddem ond yn edrych ar gyfnod o 9-12 mis lle byddai angen symud cŵn oddi yno i gael eu hailgartrefu. Felly, ni fyddai'r cau posibl—ac rwy'n gwybod na allwch chi wneud sylw ar y gwaharddiad—yn cael effaith hirdymor ar y cŵn o'r cartref hwnnw. Rwy'n gwybod na allwch wneud sylw ar y mater, ond rwy'n siŵr y byddech yn ystyried hynny.