Anifeiliaid Domestig

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 22 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:39, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Wel, fel y dywedais wrth Vikki Howells, mae ein deddfwriaeth yn mynd gam ymhellach na'r ddeddfwriaeth yn Lloegr. Er hynny, rwy'n credu eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, oherwydd rydym yn gwybod, yn anffodus, fod pobl yn dal i brynu eu hanifeiliaid anwes ar-lein, ac mae ein deddfwriaeth yn golygu na ddylai rhywun brynu anifail anwes yn unman heblaw lle cafodd yr anifail anwes hwnnw ei fridio. Felly, mae'n rhywbeth rydym yn parhau i'w fonitro ac rydym yn gwneud popeth a allwn o fewn y pwerau sydd gennym. Rwyf hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i gryfhau ei deddfwriaeth mewn perthynas â chŵn, yn enwedig cŵn peryglus, oherwydd nid wyf yn credu ei bod yn addas i'r diben, ond nid ydynt wedi bod yn hapus i wneud hynny hyd yma.