Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 22 Mawrth 2023.
Diolch. Yn amlwg, ni chlywodd yr Aelod fy ateb i Vikki Howells—ni wnaethom gyflwyno cyfraith Lucy yma yng Nghymru; deddfwriaeth Lloegr yn unig yw honno. Aethom y tu hwnt i hynny; fe wnaethom gyflwyno Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021, ac fel y dywedais, maent yn mynd ymhellach na chyfraith Lucy.
Mae'r pwynt rydych yn ei wneud ynglŷn â phrosiect gorfodi yr awdurdodau lleol yn un perthnasol iawn yn fy marn i. Yr hyn a wnaethom fel Llywodraeth oedd neilltuo cyllid ar gyfer prosiect tair blynedd i sicrhau bod gan arolygwyr ein hawdurdodau lleol yr holl offer angenrheidiol i allu cynnal ymweliadau â safleoedd bridio cŵn a sicrhau eu bod yn gwybod yn iawn am beth y chwilient a sicrhau y gallent fwrw ymlaen â'r newidiadau sylweddol. Ac yn sicr mae'r prosiect wedi cael cryn dipyn o gydnabyddiaeth, ac rwyf newydd ymestyn y prosiect am dair blynedd arall.