Rasio Milgwn

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 22 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:43, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Wel, fel y dywedais yr wythnos diwethaf yn ystod y sesiwn graffu yn y pwyllgor, rwy'n hapus iawn i siarad â'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac rwy'n siŵr y byddai hi'n hapus iawn i siarad â chi hefyd, pe bai unrhyw newidiadau i ddefnydd tir yn y dyfodol yn debygol o waethygu risg llifogydd i unrhyw gartrefi neu fusnesau sy'n bodoli eisoes yn eich etholaeth. Rwy'n credu y gallai fod ychydig yn gynamserol ar hyn o bryd, ond rwy'n siŵr, maes o law, pe bai'n angenrheidiol, byddai'n hapus i wneud hynny hefyd. Rwy'n credu bod llawer o ystyriaethau gwahanol ar waith yma. Nid wyf am achub y blaen ar unrhyw ganlyniad i'r ymgynghoriad na dyfodol y trac rasio.