Adfywio Economi Cefn Gwlad

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 22 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:59, 22 Mawrth 2023

Diolch i chi am hynny. Y cwestiwn dwi'n ei ofyn yn sylfaenol fan hyn yw pwy sy’n gyrru y gwaith yna o adfywio economi cefn gwlad. Ble mae'r focal point sy'n tynnu beth sy'n teimlo fel plethora o gyrff a phrosiectau a rhaglenni a strategaethau at ei gilydd i fod yn un pecyn strategol, cydlynol? Ble mae'r strategaeth ehangach a phwy sy'n gyfrifol am hynny? Oherwydd, 'slawer dydd, wrth gwrs, mi fyddai Bwrdd Datblygu Cymru Wledig wedi bod yn llenwi peth o'r vacuum yna dwi'n teimlo sy'n bodoli erbyn hyn. Y cwestiwn dwi eisiau ei ofyn, felly, yw a ydych chi'n meddwl bod yr amser wedi dod i ni edrych ar greu rhyw fath o endid neu ryw fath o gyfrwng fydd yn gyfrifol am yrru'r agenda yna ymlaen, oherwydd, ar hyn o bryd, mae'n teimlo jest fel cyfres o nifer o raglenni digyswllt sydd ddim yn tynnu i'r un cyfeiriad.