Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 22 Mawrth 2023.
Rwy'n ddiolchgar, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch yn gyntaf i'r Gweinidog, Jane Hutt, am ei hymroddiad i'r mater hwn, ac ymroddiad Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru hefyd? Mae'r ddau ohonoch wedi amgyffred ac wedi deall difrifoldeb y sefyllfa sydd o'n blaenau o'r cychwyn cyntaf. Mae eich ymateb heddiw yn pwysleisio hynny, ac mae eich llythyr at Grant Shapps, yr Ysgrifennydd Gwladol, ar 14 Mawrth, yn pwysleisio hynny eto.
Rwyf am geisio trafod rhai o'r cyfraniadau'n gyflym cyn ystyried un pwynt olaf. Diolch i chi, Mark Isherwood, oherwydd nid oeddwn yn gwybod beth oedd safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig ar hyn tan heddiw mewn gwirionedd. Diolch iddo am ei gyfraniad heddiw ac am gadarnhau cefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig i'r cynnig hwn. Mae'r cyfraniadau a'r gefnogaeth gan Blaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a fy nghyd-Aelodau ar y meinciau cefn yma, ac wrth gwrs y Gweinidog, yn profi bod hyn yn fwy na gwleidyddiaeth, mae'n fwy na gwleidyddiaeth bleidiol; mae'n fater o fywyd neu marwolaeth. A Mike Hedges, dyna pam na fyddaf byth yn diflasu arnoch yn gweithio'n ddiflino ac yn barhaus i godi'r mater, gan siarad yn erbyn anghyfiawnder pan fyddwch yn ei weld a sefyll dros y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Mike Hedges, ni fyddaf byth yn diflasu ar eich gweld yn sefyll dros y bobl hynny ac yn siarad yn erbyn taliadau sefydlog; a hynny'n briodol.
Cyfeiriodd Jane Dodds at elw anhygoel cyflenwyr a'r gwahaniaeth amlwg a'r gwrthgyferbyniad llwyr rhyngddynt hwy â'r bobl nad oes ganddynt arian i brynu ynni ar eu mesuryddion rhagdalu. Clywsom gan Sioned Williams a Heledd Fychan am realiti byw heb ynni, yr angen am ddigolledu, ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gaffael y rhaglen Cartrefi Clyd, fel y crybwyllodd Jenny Rathbone ac eraill hefyd. Rhianon, rydych yn hollol iawn; mae maint y rhaglen yn haeddu ymateb gan Lywodraeth y DU. Rwyf am gloi, Ddirprwy Lywydd, drwy ystyried ambell sylw terfynol, er mwyn dangos i chi, fel y dywedodd Peredur Owen Griffiths, pa mor anonest yw'r farchnad.
Gadewch i mi egluro i chi pa mor doredig yw'r system. Yn yr un cyfarfod hwnnw, yr un cyfarfod ag Ofgem lle dywedasant wrthyf nad oes problem ac nad oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu unrhyw ddrwgweithredu—ar wahân i Nwy Prydain oherwydd iddynt gael eu dal ar gamera—dywedais stori fach wrthynt a gofynnais iddynt beth y dylwn ei ddweud wrth fy mhreswylydd a ddaeth i fy nghymhorthfa leol a oedd yn eu dagrau oherwydd eu bod wedi cael eu trosglwyddo i fesurydd rhagdalu. Rydym i gyd wedi clywed straeon tebyg i hynny. Rydym wedi eu clywed o bob un o'r meinciau heddiw. Dywedodd Ofgem wrthyf y dylent gwyno. Wel, rydych chi'n gwybod, rydym i gyd yn gwybod, rwy'n gwybod, maent hwy'n gwybod bod y broses gwynion yn hurt. Rhaid i chi ysgrifennu at eich cyflenwr gyda'ch cwyn, rhaid i chi roi wyth wythnos iddynt ymateb, ac yna efallai y cewch ymateb, ond mae'n debyg na fydd o unrhyw werth. Yna rhaid i chi fynd â'r gŵyn at yr ombwdsmon ynni, heb unrhyw gyfnod diffiniedig ar gyfer ei datrys. Pa mor hurt yw hynny? Dyna pam nad yw Ofgem yn addas i'r diben. Sut y gall fod mai dim ond hyn sydd gan y rheoleiddiwr i'w ddweud wrth berson agored i niwed sydd wedi cael ei orfodi'n anghywir i newid, ac sydd, ar yr union ddiwrnod hwnnw, mewn perygl o orfod mynd heb wres na golau? Rwy'n falch fod y Gweinidog wedi ymateb gyd chyflwyno'r gwasanaeth ynni. Dyma'r cyngor gorau y gallwn ei gynnig i bobl a fydd yn atal pobl rhag wynebu argyfwng.
Lywydd, rwyf am ddirwyn i ben gydag un sylw olaf. Rydym ni yma yn y Senedd, ond mae hyn yn ymwneud â llawer mwy na'r Senedd; mae'n fater o fywyd a marwolaeth—mae hynny'n sicr. Ac mae'n dda gweld yr holl bleidiau gwleidyddol yng Nghymru yma heddiw a Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynnig hwn, oherwydd mae yna un peth yn bendant na allwn ei wneud: ni allwn adael i'r sgandal genedlaethol hon barhau. Diolch yn fawr iawn.