Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 22 Mawrth 2023.
Diolch yn fawr, Jenny Rathbone. Yn amlwg, bu newid yn y gyllideb yr wythnos diwethaf o ran y premiwm. Rwy'n ceisio eglurder ynglŷn â beth yn union mae hynny'n ei olygu, oherwydd nid ydym eisiau dychwelyd i'r sefyllfa dalebau, a godwyd gennych mor briodol yn gynharach. Oni bai bod y premiwm hwnnw'n cael ei wastatáu a'i adlewyrchu yn y gost mewn gwirionedd, ni fydd hynny'n ddigon da, a byddaf yn codi'r pwynt hwnnw ddydd Llun.
A gaf fi ddweud hefyd fy mod yn falch fod pobl wedi codi mater taliadau sefydlog? Rydych chi wedi codi hyn ar sawl achlysur, Mike Hedges. Mae'n anghyfiawnder go iawn i gwsmeriaid sy'n rhagdalu. Fe wnaethant barhau â'r taliadau sefydlog a rhoi pobl mewn sefyllfa fwy bregus. Yn dilyn cyfnod o hunan-ddatgysylltu, pan fo'n amhosibl sicrhau credyd pellach, mae deiliaid aelwydydd yn gweld bod disgwyl iddynt dalu am yr holl ddyddiau pan nad oedd modd cael cyflenwad. Unwaith eto, diolch am ymuno â'm galwad i ddiddymu'r taliadau sefydlog hyn ar gyfer cwsmeriaid sy'n rhagdalu.
Ddirprwy Lywydd, mae'n rhaid inni edrych ar ffyrdd y gallwn wella pethau. Llywodraeth y DU sydd â'r ysgogiadau at ei defnydd yn y farchnad cyflenwi ynni ac mae ganddynt bŵer i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i aelwydydd agored i niwed. Rydym wedi galw ar Lywodraeth y DU ac Ofgem i gyflwyno tariff cymdeithasol i warchod aelwydydd agored i niwed. Mae'n bwysig eu bod bellach wedi cytuno i archwilio hyn. Mae'n rhaid inni bwyso am y newid hwnnw oherwydd gallem ariannu ynni mewn ffordd fwy blaengar wedyn. Mae tariffau cymdeithasol wedi cael cefnogaeth gadarnhaol ac eang.
Mae deddfwriaeth yn y diwydiant dŵr—ac mae'r pwynt hwn wedi cael ei wneud—yn atal cwsmeriaid rhag cael eu datgysylltu, hyd yn oed os oes ganddynt ôl-ddyledion. Rwyf wedi annog newid yn y farchnad i atal datgysylltu; rwyf wedi cynnig argymhellion ar unwaith yn dilyn cyngor National Energy Action Cymru a Cyngor ar Bopeth. Rwyf hefyd wedi bod yn galw ar y Canghellor i fanteisio ar y cyfle yn y gyllideb hon i beidio â chynyddu'r gwarant pris ynni, ac rwy'n croesawu'r ffaith ei fod bellach yn aros ar £2,500 ar gyfer aelwyd nodweddiadol tan fis Gorffennaf.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae'n bwysig fy mod yn crybwyll rhai o'r pwyntiau eraill sy'n codi yn y cynnig. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod gwasanaethau cyngor dibynadwy yn bwysig iawn, ac mae mwy na 176,500 o bobl wedi cael cyngor ar effeithlonrwydd ynni drwy'r rhaglen Cartrefi Clyd ers ei lansio yn 2011. Mae'r cynllun peilot cyngor ynni hwnnw hefyd yn profi ac yn mesur effeithiolrwydd darparu cyngor yn y cartref hefyd. A gaf fi ddweud bod y Gweinidog Newid Hinsawdd, mewn perthynas â'r rhaglen Cartrefi Clyd, yn disgwyl caffael cynllun newydd sy'n cael ei arwain gan y galw ac sy'n mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a thlodi tanwydd? Mae iteriad nesaf y rhaglen Cartrefi Clyd yn hollbwysig. Ni fydd unrhyw fwlch yn y ddarpariaeth rhwng y rhaglen newydd a'r rhaglen sy'n bodoli eisoes, a bydd yn mabwysiadu dull carbon isel 'ffabrig yn gyntaf', Cymru'n gyntaf.
Ac yn olaf, diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, am ein galluogi ni i gyd i gyfrannu. Cyfarfûm â Jack Sargeant yr wythnos diwethaf i drafod canfyddiadau ei arolwg a'r adborth brawychus gan ei etholwyr, ac rwyf wedi rhannu'r arolwg hwnnw gydag Ofgem. Rwy'n cyfarfod â phrif weithredwr Ofgem ddydd Llun, a byddaf yn adrodd nid yn unig ar ei arolwg a'i ganlyniadau ond hefyd ar y cyfraniadau a wnaed yn y ddadl hynod bwysig hon heddiw. Diolch yn fawr i chi i gyd.