6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 22 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 5:11, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Lywydd, nid yw'n waith hawdd bod yn Weinidog iechyd ar ôl pandemig pan aeth y rhestrau aros i fyny'n aruthrol ym mhobman a gadawodd cyni'r Torïaid ein gwasanaethau cyhoeddus yn fregus a gadawyd ein poblogaeth hŷn, salach a thlotach yn fwy diobaith nag erioed. Ond rwyf wedi ymrwymo i ddarparu'r gwasanaeth iechyd gorau posibl i bobl Cymru, ac rwy'n benderfynol o gefnogi ein staff iechyd a gofal, sydd dan gymaint o bwysau wrth iddynt ddarparu gofal a thriniaeth sy'n achub bywydau ac sy'n newid bywydau.

Rwy'n deffro bob bore yn poeni am y dyn sydd wedi bod yn aros am lawdriniaeth ar ei glun, y fenyw sydd angen triniaeth asthma, y plentyn sydd angen llawdriniaeth adluniol. Rwy'n gweithio'n ddiflino gyda fy nghydweithwyr i sicrhau bod GIG Cymru yn darparu gofal diogel ac effeithiol o ansawdd uchel pryd bynnag y bo modd. Ond mae tanariannu cronig y sefydliad gwerthfawr hwn, a achoswyd gan gamreolaeth Dorïaidd ar ein cyllid cyhoeddus, yn gwneud hyn yn anodd iawn. Rwy'n siomedig fod y gwasanaeth iechyd unwaith eto'n cael ei ddefnyddio fel pêl-droed wleidyddol yn y Siambr hon; yn siomedig ynglŷn ag ymdrechion i wneud elw gwleidyddol o faterion difrifol yn ymwneud â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; yn siomedig ond heb fy synnu fod y Torïaid wedi dewis cyflawni'r ymosodiad hwn arnaf heddiw, er imi gael sicrwydd gan y Ceidwadwyr ar y diwrnod y rhoddais Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig na fyddent yn galw am fy ymddiswyddiad.

Ond mae amseriad y bleidlais hon heddiw yn gyfleus, onid yw? Ar y diwrnod pan fo gwaredwr honedig y blaid Dorïaidd, Boris Johnson, y dyn roeddent i gyd yn ei glodfori, y—sut y gallaf ddweud hyn—celwyddgi digyfaddawd, a addawodd £350 miliwn yr wythnos i'r GIG pe baem yn pleidleisio dros Brexit, y dyn a ddywedodd wrthym i gyd aros gartref pan oedd ef wrthi'n cael partïon, gan amddifadu pobl o'u cyfle i ddweud eu ffarwel olaf wrth eu hanwyliaid—[Torri ar draws.]