Part of the debate – Senedd Cymru am 5:03 pm ar 22 Mawrth 2023.
Nid wyf yn derbyn hynny, gan fod iechyd wedi ei ddatganoli i Gymru ers 25 mlynedd. Efallai eich bod wedi sylwi mai fi yw'r Ceidwadwr cyntaf erioed i gynrychioli Dyffryn Clwyd, ac rwy'n credu mai'r unig reswm am hynny yw oherwydd i mi ddosbarthu taflenni etholiad ac ymgyrchu, a fy mhrif flaenoriaeth yn yr ymgyrch honno oedd fy mod i'n mynd i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am rai o'r methiannau yn Betsi Cadwaladr. Dyna rwyf wedi ceisio ei wneud hyd yma yn fy nghyfnod byr yn Siambr y Senedd hon. Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o'r pethau a ddywedais yn y Siambr hyd yn hyn wrth y Gweinidog iechyd bob amser â thystiolaeth dda yn sail iddynt ac maent bob amser yn adlewyrchiad o'r hyn y mae etholwyr yn ei ddweud wrthyf yn ddyddiol. Rwy'n ceisio adlewyrchu hynny hyd eithaf fy ngallu a'r hyn a welais yn y cyfnod hwn yw bod y materion y ceisiais eu cyflwyno yma ar adegau wedi cael eu trin yn nawddoglyd ac wedi'u bychanu. Rwy'n derbyn eich bod chi'n Weinidog Llafur ac rwy'n aelod o feinciau cefn y Ceidwadwyr, ac rwy'n gwybod am y rhwystrau gwleidyddol naturiol sy'n deillio o hynny, ond cefais fy ethol ar yr addewidion hynny, a fy swydd i yn y Senedd hon yw cynrychioli fy etholwyr. Nid wyf yn credu bod y Gweinidog iechyd wedi fy helpu o gwbl yn y broses honno.
Ydw, rwyf wedi gadael i fy emosiynau ferwi drosodd un neu ddwy o weithiau yn y Senedd; rwy'n cyfaddef hynny'n llwyr. Ond yr unig reswm am hynny oedd oherwydd y rhwystredigaeth a'r angerdd sydd gennyf dros gynrychioli fy ardal enedigol. Nid wyf yn esgusodi'r math hwnnw o ymddygiad, ond mae'n gyfan gwbl ar y sail nad wyf yn teimlo bod yr hyn sy'n cael ei ddweud wrthyf gan etholwyr yn cael ei drin yn barchus gan y Gweinidog. Fe waethygodd hynny—dair neu bedair wythnos yn ôl rwy'n credu—pan gyhoeddwyd bod Betsi Cadwaladr i'w wneud yn destun mesurau arbennig eto. Codais ar fy nhraed a gofynnais gwestiwn a chwarddodd y Gweinidog iechyd ar fy mhen. Am ba reswm bynnag, fe chwarddoch chi ar fy mhen ac mae hynny'n annerbyniol. Mae'r ffaith bod Betsi Cadwaladr wedi cael cymaint o broblemau a bod y Gweinidog yn gweld hynny fel mater i chwerthin yn ei gylch—[Torri ar draws.]