Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 22 Mawrth 2023.
Felly, nid ydym wedi cael unrhyw ymddiheuriad, ni chafwyd cyfaddefiad ei bod yn argyfwng, ac rydym wedi gweld crebwyll gwael yn cael ei arfer yn eich gwrthodiad i ymgysylltu'n gadarnhaol â phleidiau gwleidyddol eraill, a rhai ar eich meinciau cefn eich hun, i geisio datrys sefyllfaoedd sydd wedi ein hwynebu ers i chi gael eich penodi'n Weinidog iechyd. Ac fe welsom y weithred fwyaf gwrthun, yn fy marn i, a welsom gan Weinidog iechyd yng Nghymru yn y blynyddoedd y bûm yn Aelod o'r Senedd hon, pan wnaethoch droi eich cefn ar bobl weddus a oedd yn gweithio'n galed fel aelodau annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, pobl a geisiai ysgogi newid heb eich cymorth chi a heb gefnogaeth rhai o'ch swyddogion—a geisiai ysgogi newid—ac eto i gyd, cawsant eu gwneud yn fychod dihangol—yn fychod dihangol—am y methiannau yn y bwrdd iechyd hwnnw, pan ydych chi'n gwybod a minnau'n gwybod, a phawb yn gwybod, mai'r broblem go iawn yw'r uwch weithredwyr yn y bwrdd iechyd hwnnw fel sefydliad. Rydych wedi cwestiynu uniondeb yr aelodau annibynnol hynny, a cheisio pardduo eu henw da drwy wneud hynny o ran y ffordd y galwyd arnynt i ymddiswyddo.
Efallai y bydd rhai ar y meinciau Llafur yn ei hystyried yn sarhad ein bod yn gofyn i chi i gyd bleidleisio i gefnogi ein cynnig o ddiffyg hyder heddiw. A phan ddywedaf nad ydym yn ei gyflwyno'n ysgafn, mae 11 mlynedd wedi mynd heibio ers y tro diwethaf i ni gyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn y Senedd hon. Dyna'r tro diwethaf i ni gyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn y Senedd hon—11 mlynedd yn ôl. Dyna'r tro olaf i ni ei wneud, oherwydd nid ydym yn ei wneud yn ysgafn; nid gêm mo hon. Nid ydym yn chwarae gwleidyddiaeth. Nid ydym yn chwarae gwleidyddiaeth. Yr hyn y ceisiwn ei wneud yw cael gwell gwasanaethau a rhoi rhywun wrth y llyw sy'n dwyn eu hunain i gyfrif am y cyfrifoldebau sydd ganddynt pan fydd ganddynt eu dwylo ar awenau grym gyda'n gwasanaeth iechyd gwladol. Rydych chi wedi methu gwrando, mae arnaf ofn, ac rydych chi wedi ceisio rhoi'r bai ar bawb arall heblaw derbyn rhywfaint o'ch cyfrifoldeb eich hun.
Clywais y sylwadau am gyllid, gyda llaw, ond nid wyf yn eu derbyn. Am bob £1 a werir ar y GIG yn Lloegr, mae Cymru'n cael £1.20 [Torri ar draws.] Rydych chi'n hollol gywir: mae angen fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Y tro diwethaf i fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion gael ei hystyried gan gomisiwn annibynnol yng Nghymru, comisiwn Holtham, fe ddywedasant y dylai'r ffi honno fod yn £1.15 am bob £1 a werir yn Lloegr. Felly, rydym yn cael mwy yn ôl cyfran mewn gwirionedd.
Felly, beth fyddem ni'n ei wneud yn wahanol? Beth rydym wedi galw arnoch chi i'w wneud yn wahanol yn eich cyfnod nad ydych chi wedi ei wneud? Wel, yn sicr fe fyddem wedi cael gwared ar y swyddogion gweithredol o'r bwrdd. Mae gennych y pwerau, fel sydd wedi'i nodi'n barod heddiw, i gael gwared ar unrhyw weithiwr oddi ar fwrdd sefydliad gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru. Ni wnaethoch ddefnyddio'r pwerau hynny, er eu bod gennych chi. Rydym wedi galw arnoch nifer o weithiau i sefydlu cofrestr arweinyddiaeth y GIG, sy'n ei gwneud yn ofynnol i bawb sydd mewn swydd arweinyddiaeth uwch yn y gwasanaeth iechyd gwladol gael eu cofrestru gyda'r gwasanaeth hwnnw er mwyn gweithio yn y GIG, yn yr un modd ag y mae angen i glinigwyr a nyrsys ei wneud; roeddech chi'n gwrthod gwneud hynny. Fe wnaethom ofyn i chi roi Betsi Cadwaladr, nid yn yr un mesurau arbennig ag o'r blaen, sef yr hyn sydd gennym i bob pwrpas, ond set o fesurau arbennig diwygiedig i geisio newid y sefydliad. Ni wnaethoch wrando arnom ac yna, fisoedd yn ddiweddarach, cafodd ei roi mewn mesurau arbennig. Fe wnaethom ofyn i chi hefyd—ac rydym wedi gwneud y pwynt hwn ar sawl achlysur—i hollti rôl prif weithredwr y GIG a chyfarwyddwr cyffredinol yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, oherwydd credwn y byddai hynny hefyd yn ysgogi atebolrwydd gwell yn y system, ond ni wnaethoch chi wrando arnom.
A phan fo gennym Weinidog nad yw'n gwrando, nad yw'n derbyn cyfrifoldeb, sy'n ceisio ochr-gamu o gwmpas pawb sy'n dod ati i ddweud, 'Wel, onid chi sy'n gyfrifol?', mae arnaf ofn fod eich amser ar ben ac mae'n bryd mynd. Ac felly, am y rheswm hwnnw, oherwydd y diffyg atebolrwydd yn ein gwasanaeth iechyd, oherwydd eich methiannau i wrando, oherwydd eich methiannau i ymgysylltu'n gadarnhaol, oherwydd eich crebwyll gwael yn ystod eich cyfnod, mae arnaf ofn fod yr amser ar ben. Dyma'r pen draw i chi ac mae arnaf ofn fod rhaid i chi fynd. Ac fe glywais yr hyn a ddywedoch chi ynglŷn â thra bo gennych chi hyder y Prif Weinidog—beth am y 3 miliwn o bobl eraill allan yno yn y wlad? Beth am eu hyder hwy? Oherwydd rwy'n ofni, os dewch chi gyda mi i ogledd Cymru i gyfarfod â fy etholwyr—a hoffwn wahodd unrhyw un i wneud hynny—fe welwch lawer o bobl sydd wedi colli anwyliaid, sydd wedi profi trawma a phoen ofnadwy o ganlyniad i'r methiannau yn ein GIG. A phe baech chi'n siarad â hwy, fe sylweddolech nad oes ganddynt hwy hyder ynoch chi ychwaith. Rwy'n annog pobl i gefnogi ein cynnig.